Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau gofal critigol

Model Gweithlu Gofal Critigol

Datblygwyd y canllaw hwn i gynorthwyo i gynllunio’r gweithlu yn yr amgylchedd gofal critigol drwy ddarparu golwg gyffredinol ar y gwahanol rolau allai fod yn rhan o’r tîm amlddisgyblaethol gofal critigol.

Mae llawer o rolau newydd wedi ymuno â’r tîm gofal critigol yn y blynyddoedd diwethaf, a bydd y canllaw hwn yn eich galluogi i ddysgu mwy am bob rôl allai weithio fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol gofal critigol, sut mae eu sgiliau’n cyfrannu at ofal cleifion, sut maen nhw wedi’u hyfforddi a faint o amser y mae’n ei gymryd i’w hyfforddi.

Bydd defnyddio’r canllaw hwn yn eich cynorthwyo i gynllunio recriwtio, cynllunio’r gweithlu a chomisiynu addysg.

I bwy mae’r canllaw? Mae’r canllaw hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n cynllunio gweithlu a/neu’n newid neu’n trawsnewid gweithlu o fewn amgylchedd gofal critigol.