Neidio i'r prif gynnwy

Cymrodoriaeth Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF)

Mae WCLTF yn gyfle secondiad 12 mis i ddatblygu eich sgiliau arwain.

Mae'n agored i:

  • Meddygon
  • Deintyddion
  • Fferyllwyr
  • Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
  • Optometryddion
  • Nyrsys

Nod y rhaglen yw recriwtio a datblygu arweinwyr clinigol mwyaf uchelgeisiol y dyfodol trwy hyfforddiant a phrofiad ymarferol.

Fel Cymrawd Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru, byddwch yn ymgymryd â phrosiect o gynigion a gyflwynwyd gan sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad i chi fod yn arweinydd clinigol credadwy a dylanwadol mewn GIG modern.

Mae'r rhaglen hon yn agored i'r canlynol:

  • ST3 cyfwerth neu uwch
  • GST2 neu uwch
  • Hyfforddiant Craidd Deintyddol (DCT) blwyddyn dau neu uwch
  • Fferyllwyr
  • Optometrydd

Am fanylion pellach a meini prawf cymwys ewch i borth arweinyddiaeth Gwella.