Neidio i'r prif gynnwy

Her 2 - Cwblhau 2 fodiwl e-ddysgu

Croeso i Her 2. Ar gyfer ail her yr ymgyrch, cwblhewch y modiwlau e-Ddysgu ar gyfer Gofal Iechyd (e-LfH) canlynol o fewn y Rhaglen Cymhwysedd Diwylliannol. Dylai pob modiwl gymryd tua 20 munud i'w gwblhau.

  • Modiwl 1: Cyflwyniad i Ddiwylliant
  • Modiwl 2: Cymhwysedd Diwylliannol
 
I gael mynediad i'r modiwlau, cliciwch yma. Bydd angen i chi greu cyfrif e-LfH i gael mynediad at y modiwlau.

 

Mae datblygu cymhwysedd diwylliannol yn gofyn am ddealltwriaeth o’r hyn a olygir gan ‘ddiwylliant’, ei effaith ar iechyd, gwerthoedd, credöau, ymddygiadau a phenderfyniadau unigolion, a pham ei fod yn bwysig bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn ymwybodol o ddiwylliant.

Mae hefyd yn ei wneud yn ofynnol i weithwyr iechyd proffesiynol ddatblygu ymwybyddiaeth o sut i sefydlu cymhwysedd diwylliannol o fewn eu hymarfer a sut y gall eu rhagfarnau, eu credöau, eu gwerthoedd, a’u gwreiddiau diwylliannol eu hunain effeithio ar ryngweithio a darpariaeth gofal i gleifion nad ydynt yn perthyn i’w grŵp cymdeithasol a diwylliannol eu hunain.

Mae'r modiwlau e-LfH yn ​​canolbwyntio'n benodol ar gyfathrebu â chleifion. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r modiwlau, gwnewch nodyn o'ch pwyntiau dysgu allweddol a sut y gallech roi hyn ar waith yn eich ymarfer.

Oes unrhyw beth y gallwch ei ystyried yn awr wrth gyfathrebu â chleifion, aelodau o'r teulu, cydweithwyr, neu unrhyw un arall y byddwch yn cwrdd â nhw?