Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Lymphoedema yn cael ei chynnal rhwng 6-10 Mawrth 2023, gyda Diwrnod Lymffoedema y Byd yn disgyn ddydd Llun 6 Mawrth.
Beth ydi Lymphoedema?
Mae lymffoedema yn gyflwr cronig a achosir gan fethiant y system lymffatig. Gall ddigwydd mewn unrhyw ran o'r corff gan achosi chwyddo ym meinweoedd y corff. Gall hyn achosi effaith gorfforol, seicolegol a chymdeithasol ar fywydau unigolion ac mae angen ei adnabod a'i drin cyn gynted â phosibl.
Credir bod lymffoedema yn effeithio ar fwy na 200,000 o bobl yn y DU, ac yn 2020 roedd dros 20,000 o bobl â Lymffoedema yma yng Nghymru.
Gall lymffoedema heb ei reoli gynyddu'r risg o gwympo, datblygu clwyfau a llid yr isgroen. Mae'r cyfan yn gostus i'r claf ac i'r GIG. Gall llid yr isgroen, sy'n haint bacteriol acíwt ar y croen, arwain at dderbyniadau i'r ysbyty dro ar ôl tro, ymgynghoriadau gofal sylfaenol a dirywiad cyffredinol mewn iechyd.
Mae gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru Wasanaethau Lymffoedema pwrpasol a gefnogir gan Dîm Lymffoedema Cenedlaethol. Gyda'i gilydd maen nhw'n creu Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru (LCNW).Mae AaGIC wedi bod yn gweithio gyda LCNW i ddod ag ystod o adnoddau defnyddiol i chi yn barod ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Lymffoedema.
Mae'r cynnwys isod wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws amrywiaeth o rolau a sectorau.
Cymerwch gip i weld pa wybodaeth ddefnyddiol all eich cefnogi yn eich rolau.
Resources
Gweminar newydd yn dod yn fuan!