Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i hanelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio mewn rolau a sectorau amrywiol yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eu rhyngweithio â chleifion sy'n byw gyda phoen. Yn aml gall fod yn gymhleth ac yn heriol felly mae'r dudalen hon yn rhannu gwybodaeth am themâu allweddol y canllawiau cyfredol ac adnoddau defnyddiol ar gyfer stiwardiaeth poenliniarwyr a rheoli poen.
Cliciwch ar y blychau isod i wylio'r clipiau byr mynediad agored.
Sylwch, nid yw’r rhain yn gynhwysfawr a’u nod yw rhoi blas o themâu allweddol y gallai cydweithwyr fod eisiau eu harchwilio ymhellach yn unol â’u rolau’.
Cyflwynir y fideos gan: Dr Emma Davies PhD, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Poen Parhaus, Prif Fferyllydd – Poen, Stiwardiaeth Analgesig a Lleihau Niwed, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Morgannwg
Dyddiad ymgyrch ymwybyddiaeth: Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Poen
Adolygiad nesaf cynnwys y dudalen: Mai 2026
Nodwch fod y termau ‘Analgesig’ a ‘Poenliniarwyr’ yn cael eu defnyddio yn gyfnewidiol i’r term Saesneg ‘analgesic’ yn yr adnodd hwn.