Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae’r cyfnod amenedigol sy’n cwmpasu beichiogrwydd a hyd at flwyddyn ar ôl genedigaeth plentyn yw efallai un o’r adegau pwysicaf ym mywydau rhieni ar gyfer datblygu perthnasoedd diogel, meithringar gyda’u plant.

Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddyletswydd i weithio mewn partneriaeth â phob menyw a’i theulu, i barchu ei hangen am wybodaeth a gofal sy’n caniatáu iddi wneud y penderfyniadau gorau drosti ei hun, ei beichiogrwydd, ei babi a’i theulu. Mae cefnogi iechyd meddwl a lles tadau a phartneriaid hefyd yn hanfodol.

Mae angen lefelau gwahanol o wybodaeth a sgiliau ar aelodau o weithlu Cymru er mwyn hybu lles cadarnhaol ac iechyd meddwl da mewn mamau, babanod a theuluoedd yn ystod y cyfnod amenedigol.

Dylai ein gweithlu hefyd deimlo'n barod i ymyrryd mewn ffordd amserol a chymwynasgar pan fo salwch meddwl yn bresennol.

Mae'r dudalen hon felly yn coladu adnoddau sy'n cyfeirio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol at wybodaeth a allai fod o ddefnydd yn eu rolau penodol.