Neidio i'r prif gynnwy

Graddedigion meddygol rhyngwladol (IMG)

Mae Cymru yn wlad unigryw ym Mhrydain Fawr gyda'i diwylliant,iaith, arferion, gwleidyddiaeth, gwyliau a cherddoriaethei hun.

Gweithio yn y GIG

Mae'r GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) yn sefydliad a ariennir gan y llywodraeth sy’n cyflogi’r rhan fwyaf o’r gweithwyr iechyd proffesiynol ledled y DU. Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yw'r undeb llafur a'r corff proffesiynol ar gyfer meddygon yn y DU.

Isod mae camau defnyddiol i'w cymryd tuag at weithio yn y DU.

  1. I weithio fel IMG yn y GIG, bydd angen fisa gweithiwr medrus arnoch.
  2. I weithio fel meddyg yn y DU, bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Dysgwch am gofrestru a thrwyddedu neu gwnewch gais i gofrestru.
  3. I gwblhau eich cofrestriad i CMC, bydd angen i chi sefyll prawf Bwrdd Asesu Ieithyddol Proffesiynol, a elwir hefyd yn arholiad PLAB. Mae arweiniad ar PLABar gael gan y GMC.
  4. Unwaith y byddwch yn barod, gallwch wneud cais am swydd gyda'r GIG.

 

Isod mae dolenni i rai adnoddau a chynnwys allanol nad yw AaGIC yn gyfrifol amdanynt: