Er mwyn gweithio fel meddyg yn y DU, mae angen i chi gofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).
Mae grŵp Meddygon a Deintyddion Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru (WARD) yn sicrhau bod yr addysg a’r hyfforddiant cywir ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol tramor ailadeiladu eu gyrfa yn y DU.
Mae WARD yn helpu meddygon a deintyddion sy'n ffoaduriaid i gael cofrestriad gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Gwneir hyn trwy hyfforddiant wythnosol a chefnogaeth ariannol tuag at yr arholiadau iaith ganlynol.
Hyd yma, mae 300+ o weithwyr gofal iechyd proffesiynol (255 o feddygon a deintyddion) wedi elwa o'r prosiect. Isod mae'r hyn oedd gan rai ohonyn nhw i'w ddweud am WARD.
Os gallech chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod elwa o gefnogaeth WARD, i gael gwybodaeth am y prosiect a’r cymorth a ddarperir, neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â: HEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk neu Sam Allen yn Alltudion ar Waith (DPIA) drwy sam@dpia.org.uk.
Adnodd | Math o gefnogaeth a gynigir |
Graddedig Meddygol Rhyngwladol (IMG) | Yn darparu cyngor ar gofrestru, arholiadau Saesneg eu hiaith, arholiadau clinigol PLAB a mwy. |
Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) elusennau sy'n cefnogi meddygon yn ariannol | Mae elusennau BMA yn helpu pob meddyg a myfyriwr meddygol ar adegau o angen ariannol. Mae'n gweithio'n annibynnol ar y BMA. |
Menter Meddyg sy'n Ffoaduriaid y BMA | Mae pecyn o fuddion am ddim ar gael i wneud cais amdano os ydych yn gweithio tuag at gofrestru gyda'r GMC |
Gwefan gyrfaoedd y GIG ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol | Gwybodaeth am gofrestriadau a mewnfudo ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cymhwyso dramor yn y DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r tu allan i'r AEE. |
Gwefan gyrfaoedd y GIG ar gyfer meddygon yn benodol | Gwybodaeth am ddod yn feddyg yn y DU. |
Cefnogaeth i lawfeddygon sy'n ffoaduriaid | Mae Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr yn cynnig cymorth i lawfeddygon sy'n ffoaduriaid a hyfforddeion llawfeddygol i'w helpu i mewn i'r GIG. |
Cefnogaeth i ffoaduriaid sydd â phrofiad mewn obstetreg a gynaecoleg | Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr yn cynnig cymorth i feddygon sy'n ffoaduriaid sydd â phrofiad yn y maes hwn. |
Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) | Mwy o wybodaeth i feddygon sy'n ffoaduriaid sydd eisiau ail-gymhwyso yn y DU. |
Rhaglen DU CARA | Mae'r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA) yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd bellach yn byw yn y DU fel ceiswyr lloches, ffoaduriaid a myfyrwyr rhyngwladol. Mae'n eich helpu i ddychwelyd i astudio neu broffesiwn cysylltiedig ar lefel sy'n cyfateb i'ch cymhwyster a'ch profiad. |