Neidio i'r prif gynnwy
Prof.. John Gammon

Aelod annibynnol

Amdanaf i

Aelod annibynnol

Tan yn ddiweddar, roedd yr Athro Gammon yn Ddirprwy Bennaeth y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Yma, roedd yn gyfrifol am arwain datblygiad busnes y coleg yn y meysydd allweddol sef arloesi,ymgysylltu a datblygiad sefydliadol. Roedd ei rôl yn cynnwys prosiectau arloesi penodol, yn fewnol ac yn allanol, a gyfrannodd at gyflawni nodau strategol y brifysgol. Roedd ei rôl yn cynnwys cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â buddianwyr mewnol ac allanol, yn enwedig byrddau iechyd, cyrff cyhoeddus a gwasanaethau proffesiynol eraill. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Ymgysylltu, Partneriaeth ac Arloesi gyda'r Gyfadran Feddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, ym Mhrifysgol Abertawe

Mae gan yr Athro Gammon bron i un mlynedd ar bymtheg o brofiad o fewn y GIG ar ôl hyfforddi fel nyrs a gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol gydag Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin. Yn fwy diweddar bu’n Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gwasanaethodd hefyd fel Aelod Bwrdd gyda Choleg Addysg Bellach Sir Benfro. Mae wedi cadeirio llawer o Bwyllgorau Bwrdd Iechyd a Phrifysgol gan gynnwys y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch, Pwyllgor Perfformiad a Chynllunio, Bwrdd Partneriaeth y Brifysgol,Pwyllgor Pwerau Rhyddhau Iechyd Meddwl a Phwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant,Datblygiad Sefydliadol a Phobl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, er bod ei dymor i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2022.

Mae gan yr Athro Gammon brofiad sylweddol mewn addysg uwch, gydag arbenigedd pwnc mewn atal a rheoli heintiau,ymchwil a rheoli gofal iechyd. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys rheoli heintiau, strategaethau ynysu, a chydymffurfiaeth ymddygiadol o fewn cyd-destun clinigol. Mae gan yr Athro Gammon Ddoethuriaeth mewn Athroniaeth, mae ganddo gorff sylweddol o waith wedi ei gyhoeddi, ac mae'n arholwr allanol i Goleg y Brenin, Prifysgol Llundain. Mae hefyd yn siaradwr Cymraeg lefel 3.