Neidio i'r prif gynnwy
Donna MacArthur

Aelod annibynnol

Amdanaf i

Aelod annibynnol

Mae gan Donna brofiad helaeth o weithio yn y GIG, ac yn dod a hynny i’w rôl fel Aelod Annibynnol. Dechreuodd ei gyrfa yn y GIG fel ffisiotherapydd yn Llundain yn yr 1980au yn arbenigo mewn paediatreg, cyn dychwelyd i ganolbarth Lloegr i weithio yn Ysbyty Plant Birmingham. Ar ôl amrywiaeth o swyddi paediatreg, cwblhaodd Donna Gynllun Hyfforddiant Rheolaeth Gyffredinol y GIG a hefyd Gradd Meistr mewn Polisi a Rheolaeth Gofal Iechyd.

Mae Donna wedi ymgymryd â rolau rheoli yn y sector Ysbyty acíwt, yn cynnwys Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Birmingham ble roedd hi’n Rheolwr Grŵp ar gyfer Gwasanaethau Arennol a Wroleg, cyn symud ymlaen at rôl yng Ngwasanaethau Comisiynu Arbenigol yr Ardal Ddu (Black Country). Fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer y Tîm Comisiynnu Arbenigol (Gorllewin Canolbarth Lloegr) roedd Donna yn eistedd ar amrywiaeth o weithgorau cenedlaethol, yn ystyried dynodiad gwasanaethau arbenigol.

Fe weithiodd Donna mewn rolau comisiynu pellach yn ennill profiad mewn gwasanaethau gofal eilaidd a sylfaenol, cyn ymuno a GIG Lloegr yn ei ddechreuad fel Pennaeth Gofal Sylfaenol ar gyfer Birmingham a’r Ardal Ddu. Yn 2016 fe symudodd Donna at Grŵp Comisiynnu Clinigol Walsall fel Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, yn eistedd ar Gorff Llywodraethol CCG ble roedd hi’n gweithio yn agos gydag arweinwyr clinigol i ddatblygu a gweithredu’r Strategaeth Gofal Sylfaenol a’r Strategaeth Ansawdd Gofal Sylfaenol.

I weld ein holl aelodau bwrdd annibynnol ewch i: https://aagic.gig.cymru/amdanom-ni/aelodaur-bwrdd-ac-uwch-arweinwyr/