Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaethau

Doctor supporting a lady doing apprenticeship

Mae prentisiaethau’n ffordd o ennill cyflog a gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i ennill sgiliau a gwybodaeth sy’n benodol i’r rôl.

Rhaid i brentisiaid gael eu cyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos a chael lleiafswm cyflog prentisiaid neu gyflog ar sail oedran o leiaf. Mae Llywodraeth Cymru’n talu am yr elfen hyfforddi ac mae’r cyflogwr yn talu costau’r cyflogau. Mae’r cyllid yn helpu newydd-ddyfodiaid yn ogystal â rhai sydd eisoes yn cael eu cyflogi ac yn awyddus i uwchsgilio.

Gan ddibynnu ar faint a lefel y cymhwyser mi gymer rhwng 1 a 3 blynedd i gwblhau prentisiaeth. Mae’n cyfuno hyfforddiant ymarferol, sy’n seiliedig ar waith gydag astudiaethau i weithio tuag at Fframwaith Prentisiaethau Cymru.

Bydd prentisiaid ar y cyd â’u rheolwr llinell yn dewis Fframwaith Prentisiaeth priodol a fydd yn cynnwys cymwysterau Cymhwysedd, Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol perthnasol.

Ceir manylion am ofynion a chymwysterau lefel mynediad ym mhob fframwaith.

Mae tua 190 o rolau ar gael mewn ystod eang o sectorau o Lefel 2 i Lefel 5. Mae manylion llawn am y fframweithiau cyfredol ar gael ar wefan Ardystio Prentisiaethau Cymru.

Ym mis Chwefror 2017 lansiodd Llywodraeth Cymru ei Pholisi Prentisiaethau a’r Cynllun Pum Mlynedd, sy’n manylu ar y blaenoriaethau ar gyfer Prentisiaethau a sut y bydd y rhain yn cael eu cyflawni.

Cysoni'r Model Prentisiaethau ag anghenion economi Cymru.

Gallwch ddod o hyd i restr lawn y Fframweithiau Prentisiaeth sydd ar gael yn GIG Cymru yma:

Crynodeb o Gymwysterau Prentisiaethau