Mae prentisiaethau yn ffordd o ennill cyflog a gweithio gyda staff profiadol i ennill sgiliau a gwybodaeth sy’n benodol i’r rôl.
Yn dibynnu ar faint a lefel y cymhwyster bydd y prentisiaeth yn cymryd rhwng 1 a 3 blynedd i gwblhau; Mae’n cyfuno hyfforddiant ymarferol seiliedig ar waith gydag astudio i gweithio tuag at Fframwaith Prentisiaeth Cymraeg. Bydd prentisiaid ar y cyd â’u rheolwr llinell yn dewis Fframwaith Prentisiaeth priodol a fydd yn cynnwys Cymhwysedd, Gwybodaeth, a chymwysterau Sgiliau Hanfodol perthnasol.
Mae tua 190 o swyddi ar gael mewn ystod eang o sectorau o Lefel 2 i Lefel 5. Ceir manylion llawn yr holl fframweithiau cyfredol ar y Frameworks Library | ACW - Website.
Mae'r llawlyfr rheolwyr yn rhoi arweiniad i reolwyr sydd â diddordeb mewn darparu Prentisiaeth yn eu maes. Gallwch ddod o hyd i hwn yma: Apprenticeship Handbook - Apprenticeship Managers' Handbook.
Mae rhagor o wybodaeth am y fframweithiau prentisiaeth sydd ar gael yn GIG Cymru a’r cymwysterau sydd ynddynt ar gael yma: Crynodeb o gymwysterau prentisiaethau.
Mae taflen y dysgwr yn rhoi arweiniad i ddarpar brentisiaid, gan roi amlinelliad o gyfleoedd, disgwyliadau a gofynion cymhwyster. Gallwch ddod o hyd i hwn yma: Taflen brentisiaethau.