Neidio i'r prif gynnwy

Ynglyn a'r ymgynghoriad

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn comisiynu Ffotograffwyr Clinigol dan Hyfforddiant yn flynyddol i weithio mewn Adrannau Ffotograffiaeth Glinigol yng Nghymru, ar y cyd ag ymgymryd â Thystysgrif Ôl-raddedig (PgCert) Prifysgol Caerdydd mewn Ffotograffiaeth Glinigol. Y ddwy elfen hon sy’n llunio cyfansoddiad cynllun hyfforddi ffotograffiaeth glinigol AaGIC.

Mae disgwyl i’r garfan ddiwethaf i ymgymryd â’r PgCert Ffotograffiaeth Glinigol, nôl ym mis Medi 2021, gwblhau’r cwrs erbyn mis Mawrth 2023.

Ar hyn o bryd, nid oes cymhwyster yng Nghymru i Hyfforddeion Ffotograffiaeth Glinigol newydd ymgymryd ag o.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i gomisiynu ffotograffiaeth glinigol, gyda'r senario hon yn rhoi cyfle i adolygu'r fformat ar gyfer traddodi addysg a hyfforddiant ffotograffiaeth glinigol yng Nghymru.

Yn dilyn arfarnu’r opsiynau, roedd rhanddeiliaid yn bleidiol i AaGIC ddatblygu model dysgu seiliedig ar waith. Mae AaGIC wedi bod yn datblygu'r maes llafur amlinellol, y nodau, y deilliannau dysgu a'r meini prawf asesu ar gyfer y cymhwyster newydd a fydd yn bodloni'r 60 credyd sylfaenol ar gyfer y proffesiwn ffotograffiaeth glinigol, sef isafswm y gofynion mynediad ar gyfer lefel 7.

Mae AaGIC yn gweithio ar y cyd ag IMI i sicrhau bod pob cam o  ddatblygiad y cymhwyster yn diwallu’r gofynion proffesiynol. Mae'r IMI wedi bod yn ategu’r datblygiadau a bydd gofyn iddynt gydnabod cwblhad llwyddiannus y cymhwyster yn ffurfiol. Bydd hyfforddeion yna’n gymwys ar gyfer cofrestriad AHCS ac aelodaeth IMI broffesiynol.

Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y cynnwys amlinellol ar gyfer y cymhwyster dysgu seiliedig ar waith ffotograffiaeth glinigol arfaethedig.

Mae 14 o unedau arfaethedig ar hyn o bryd. O fewn strwythur cyffredinol y cymhwyster, cynigir y canlynol:

  • Pob uned i gynnwys pwrpas a nod, deilliannau dysgu, meini prawf asesu a gwybodaeth asesu.
  • Pob uned yn orfodol.
  • Gall lefel a maint (cynnwys) yr unedau amrywio.
  • Bydd lefel gyffredinol y cymhwyster ar lefel 7 (lefel ôl-raddedig).
  • Bydd rhai unedau'n cael eu traddodi yn olynol, ac eraill yn gydamserol.
  • Caiff yr unedau eu mapio yn ôl Safonau Hyfedredd AHCS.
  • Caiff yr unedau eu mapio yn ôl Cod Ymddygiad Proffesiynol yr IMI.
  • Mae angen i bob uned allu bodoli’n annibynnol at ddibenion ardystio.

Unwaith y bydd y cymhwyster wedi'i ddatblygu bydd gofyn i'r IMI gymeradwyo’r cymhwyster yn ffurfiol i sicrhau bod hyfforddeion yn gymwys i gael cofrestriad AHCS ac aelodaeth IMI broffesiynol.