Neidio i'r prif gynnwy

Suman Mitra

Suman Mitra

Mae gan Suman ddiddordeb mewn efelychiad sy’n canolbwyntio ar y claf i gyflwyno addysg feddygol a rhyngbroffesiynol.

Mae wedi bod yn ymwneud â hyfforddiant ac addysgu efelychiad ers 2009 pan ddechreuodd oruchwylio rhaglenni cydrannol a ddewiswyd gan fyfyrwyr meddygaeth.

Mae Suman wedi integreiddio hynny â hyfforddiant ôl-raddedig ac addysgu parafeddygol. Ers hynny, mae wedi dilyn strategaeth sy’n dilyn dull hollgynhwysol ar gyfer addysg feddygol sy’n cynnwys nifer o arbenigeddau gan gymryd rhan fel cyfadran ac fel dysgwyr i gyflawni eu hamcanion unigol gan sicrhau bod y claf yn dal yn ganolog. Mae ei brosiectau wedi cael eu cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ac wedi ennill cydnabyddiaeth i’r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan.

Cwricwlwm gwahanol ond thema ddysgu gyffredinol yw strwythur yr addysg seiliedig ar efelychiad a gyflwynir ganddo. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae wedi cynnal sesiynau datblygiad proffesiynol sy’n defnyddio lleoliadau ledled Gogledd Cymru ac sy’n cynnwys meddygon, nyrsys, bydwragedd, parafeddygon, ymatebwyr cyntaf, tân ac achub, timau achub mynyddoedd, timau achub ogofâu, gwylwyr y glannau a staff yr RNLI.

Ei weledigaeth ar gyfer addysg seiliedig ar efelychiad i Gymru yw helpu a chefnogi dysgu rhyngbroffesiynol sy’n rhoi’r claf yn ganolog ac sy’n dod â phawb sy’n gysylltiedig â siwrnai’r claf ynghyd i ddysgu am ac oddi wrth ei gilydd.

Fel Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus ac arweinydd Modiwl ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol, mae wedi bod yn gysylltiedig â threfnu, addysgu ac asesu’r modiwl ‘Addysgu a Thechnoleg’ am y 6 blynedd diwethaf. Mae hyn yn addysgu ymgeiswyr am ddamcaniaethau dysgu oedolion, meddalwedd a chaledwedd technoleg efelychiad yn ogystal â’u hannog i feddwl sut y gellir ymgorffori ffactorau dynol a rheoli adnoddau timau mewn addysg sy’n seiliedig ar efelychiad.

Ar wahân i’w waith bod dydd a’i ddiddordebau addysgol, mae Suman yn treulio amser ar ei fferm yng Ngogledd Cymru, lle mae’n byw. Mae rhywbeth i’w wneud gydol yr amser wrth dyfu llysiau organig, cadw ieir a chynnal y caeau.