Neidio i'r prif gynnwy

Atal a Rheoli Heintiau

Mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi datblygu Fframwaith Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Heintiadau, Ataliaeth a Rheolaeth Cymru Gyfan ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae’r fframwaith yn amlinellu’r safonau y dylid eu defnyddio i lywio ymarfer pob aelod o’r timau darparu gofal yn sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

I gefnogi’r fframwaith, datblygwyd detholiad o adnoddau addysg a hyfforddiant i sicrhau bod yr wybodaeth, y sgiliau a’r cymwyseddau sy’n gysylltiedig ag atal heintio a’i reoli oll ar gael yn erbyn safonau ymagwedd Unwaith i Gymru at iechyd a gofal cymdeithasol.

Fel rhan o’r gwaith hwn, mae fideo byr wedi’i animeiddio wedi cael ei ddatblygu i atgyfnerthu arfer ac ymddygiad gorau ac ymwelwyr i leoliadau gofal ar draws y sectorau, er mwyn lleihau’r lledaeniad o heintiadau a chlefydau heintus.

Gellir lanlwytho ein hanimeiddiad i dudalennau Mewnrwyd y Bwrdd Iechyd, sgriniau arddangos gweledol a sianeli cyfathrebu lleol eraill, yn ôl y hyn sy’n briodol.

 

Rhaglen Atal a Rheoli Heintiau (IPC)

Cwblhawyd rhaglen waith strategol IPC 12 mis o hyd ym mis Mai 2022, a’r ffocws oedd adolygu a gwneud argymhelliad mewn perthynas â gweithlu IPC arbenigol ac addysg arbenigol.

Gwnaeth rhanddeiliaid, mewn grwpiau “Tasg a Gorffen” gan AaGIC, gydweithio, adfyfyrio a chyd-lunio gweithlu IPC arbenigol ac adnoddau addysg, hyfforddiant a datblygu.

Mae adnoddau a gyd-ddatblygwyd yn cynnwys:

  1. Model gweithlu arbenigol IPC arloesol gyda chlystyrau gweithlu, rolau craidd a swyddogaethau craidd, i gefnogi gweithlu cadarn a chynaliadwy, wedi’u cyd-blethu â:
  2. Mae fframwaith dysgu, hyfforddi a datblygu atal a rheoli heintiau arbenigol yn darparu:
    • Ymagwedd lefel/cam wrth gam
    • Cymwyseddau craidd o fewn 4 is-faes
    • Ffynonellau tystiolaeth i ddangos cymhwysedd
  3. Compendiwm o addysg arbenigol (cyrsiau, rhaglenni a/neu fodiwlau) ar gyfer arbenigwyr IPC

Bydd adnoddau ar gael cyn hir ar y dudalen hon. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Bassett: Lisa.Bassett3@wales.nhs.uk