Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

A stack of hands on top of each other in a circle

Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn derm ar y cyd a ddefnyddir i ddisgrifio 13 o wahanol broffesiynau sy'n gweithio ar draws y rhychwant oes cyfan, mewn ystod eang o leoliadau ledled y GIG, gofal cymdeithasol, awdurdod lleol, ymarfer preifat, addysg, a'r system farnwrol.

Mae hyn yn ein gwneud ni'n un o'r poblogaethau mwyaf amrywiol yn y gweithlu iechyd a gofal. Gwelwch mwy o wybodaeth am y ystod eang o rolau Gweithwyr Iechyd Perthynol sydd ar gael.

Fel Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd rydym i gyd wedi ein cofrestru gan yr un Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Yr HCPC yw'r corff sy'n gosod y safonau yr ydym yn ymarfer yn eu herbyn. Mae'r safonau hyn yn ymwneud â'n hymddygiad, perfformiad a moeseg; ein hyfedredd a'n disgwyliadau o ran datblygiad proffesiynol parhaus.