Yn 2020 rydym i gyd wedi gwneud aberth mawr i amddiffyn ein hunain, teulu, ffrindiau a'r GIG rhag Covid 19. Mae'r amddiffyniad hwnnw'n parhau ac fel rhan ohono yr ydym wrthi'n brechu pawb yn ein cenedl. Nid tasg fach yw brechu cenedl ac rydym yn gwerthfawrogi'r holl gymorth a chefnogaeth y gallwn eu cael.
Os ydych yn gyn-weithiwr gofal iechyd proffesiynol e.e. meddyg teulu, meddyg, nyrs, bydwraig, gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd, gweithiwr cymorth gofal iechyd, ac os hoffech gefnogi rhaglen frechu COVID 19 GIG Cymru yn eich ardal, hoffem glywed gennych.
Mae nifer o rolau ar gael megis:
Darperir hyfforddiant llawn a diweddaru sgiliau yn ogystal â goruchwyliaeth, cymorth ac offer diogelu personol priodol. (Os ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda Bwrdd Iechyd, byddwch yn amyneddgar gyda nhw wrth iddynt brosesu mynegiadau o ddiddordeb.)
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol drwy un o'r dolenni gwirfoddoli isod.
Bwrdd Iechyd - Cyfeiriad Ebost