Neidio i'r prif gynnwy

Dogfen Ymgysylltu Technegol Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol

Dogfen Ymgysylltu Technegol Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru
Hydref 2020 – Rhagfyr 2021

 

Yr hyn a Wnaethom

Dechreuodd y gwaith hwn ym mis Ebrill 2020 i gefnogi gweithrediad Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022 Llywodraeth Cymru ac, yn benodol, y cam gweithredu canlynol:

  • O3 (i) Ar ôl cyhoeddi strategaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer y gweithlu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio gyda’r sector preifat, y trydydd sector, awdurdodau lleol a’r GIG i greu cynllun gweithlu ar gyfer iechyd meddwl.

Mae’r papur hwn yn nodi’r ymgysylltiad a gwblhawyd hyd yn hyn.

Yn amlwg, mae Covid wedi effeithio ar y ffordd yr ydym wedi ymgysylltu, a hefyd gallu ein partneriaid i gymryd rhan ar wahanol gamau. O ganlyniad, rydym wedi ceisio ehangu’r ystod o ymgysylltu sydd wedi’i gynnwys yn y gwaith o ddatblygu drafft cychwynnol y cynllun gweithlu, gan ddefnyddio cymaint o ddulliau â phosibl. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Cyfarfodydd unigol a thrafodaethau gydag ystod eang o grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys:
  • Cyrff penodol i feysydd proffesiynol (gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, y Coleg Nyrsio Brenhinol, Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHPs)).
  • Presenoldeb rheolaidd mewn fforymau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys Bwrdd ac is-grwpiau’r Rhwydwaith Iechyd Meddwl, Bwrdd Goruchwylio a Chyflawni Iechyd Meddwl, a’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol.
  • Gweithdai ‘What Good Looks Like’ gyda’r trydydd sector, Fforwm Profiad Bywyd.
  • Digwyddiad ymgysylltu rhithwir byw, mis o hyd.
  • Ymgysylltiad penodol i feysydd proffesiynol, gan gynnwys datblygiad adroddiadau wedi’u teilwra yn tynnu sylw at bryderon y gweithlu yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion, therapi galwedigaethol, fferylliaeth, ffisiotherapi, therapi lleferydd ac iaith, podiatreg a therapïau celfyddydau.
  • Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol a welodd dros 40,000 o ymgysylltiadau ar Twitter a 3,585 o ryngweithiadau ar Facebook, dros 7,000 o gysylltiadau ar YouTube a 1,000 o ymweliadau â gwefan AaGIC.
  • Grwpiau ffocws, gan gynnwys therapïau seicolegol a gwaith cymorth cymheiriaid.
  • Ymgysylltu rhwng staff rheng flaen a staff gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn y gymuned.

Mae’r gwaith wedi’i oruchwylio gan Fwrdd Prosiect AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru, sydd wedi cyfarfod yn fisol o fis Mehefin 2020 ac sy’n cynnwys cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru, AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yn ogystal â'r holl weithgareddau yn y tabl hwn, fe wnaethom gynnal grŵp cynghori rhanddeiliaid y rhaglen drwy gydol datblygiad y cynllun, a chynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu rhithwir cyhoeddus am y newidiadau i reoliadau’r Mesur Iechyd Meddwl, a welodd dros 140 o bobl yn cymryd rhan. Rydym wedi siarad â miloedd o randdeiliaid ledled Cymru i ddatblygu’r cynllun hwn.

Mae grŵp Cynghori Rhanddeiliaid AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyfarfod bob mis ers mis Tachwedd 2020 ac mae’n cynnwys ystod eang o gynrychiolaeth, gan gynnwys AaGIC (Nyrsio a Thrawsnewid Mamolaeth, addysg, ansawdd a chomisiynu, dysgu yn y gwaith, cymorth a datblygiad meddygol, Proffesiynau Perthynol i Iechyd, cynllunio gweithlu strategol, fferylliaeth), Gofal Cymdeithasol Cymru, y Coleg Nyrsio Brenhinol, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, cynrychiolwyr unigolion sydd â phrofiad bywyd o iechyd meddwl, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cymru, Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru (CAMHS ac Addysg, Iechyd Meddwl Oedolion), awdurdodau lleol, Cyfarwyddwr y Gweithlu a chynrychiolydd datblygu sefydliadol (OD), gofal sylfaenol a chymunedol, Hafal, Mind Cymru, yr Uned Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol, byrddau iechyd, Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi cyfarfod yn rheolaidd â'n grwpiau gorchwyl a gorffen ar gyfer 'iechyd meddwl amenedigol' a 'babanod, plant a phobl ifanc' ac wedi cyfarfod â grwpiau i gefnogi therapïau seicolegol.

Rhwng mis Hydref 2021 a mis Ionawr 2022, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda grwpiau rhanddeiliaid unigol, gan gynnwys cyrff proffesiynol a grwpiau cyfeirio cenedlaethol, i nodi ymrwymiadau allweddol i'w cynnwys yn y cynllun gweithlu. Mae'r rheini sydd eisoes wedi cael cyflwyniadau ac wedi rhoi adborth cychwynnol yn cynnwys: Bwrdd Rhwydwaith Iechyd Meddwl, Cyfarwyddwyr Nyrsio, Cyfarwyddwyr Therapïau, Grŵp Cynghori Arbenigol Iechyd Meddwl y Coleg Brenhinol, cyfarfod grŵp niwroddatblygiad plant a phobl ifanc Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Cymru gyfan, cyfarwyddwyr gweithlu, Grŵp Is-gadeiryddion, British Association for Counselling and Psychotherapy (BAPC), Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol (DPCC), British Association for Behavioural and Cognitive Psychotherapies (BABCP), Rhwydwaith Arweinwyr Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy Cymru Gyfan, gwasanaeth PWP Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ADSS Cymru, Is-grŵp Bwrdd Rhwydwaith Iechyd Meddwl Oedolion, Is-grŵp Amenedigol Cydweithredol, Is-grŵp Cydweithredol Iechyd CAMHS GIG Cymru, penaethiaid gwasanaethau oedolion (AWASH), penaethiaid gwasanaethau plant (AWHOCs), rheolwyr gweithlu awdurdodau lleol, BASW Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (arweinwyr gwasanaethau a Chyfarwyddwr Iechyd Meddwl), Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan (arweinwyr gwasanaethau a Chyfarwyddwr Iechyd Meddwl), HelpForce Cymru, Grŵp Cynghori Uwch Nyrsys Cymru Gyfan.

I grynhoi:

  • Trwy gydol mis Hydref 2020, buom yn hwyluso cynhadledd ar y cyd rhwng AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru, i roi hwb i'n gwaith ac i ddeall cymhlethdodau'r gweithlu iechyd meddwl. Darparodd rhanddeiliaid adborth trwy sesiynau rhyngweithiol, dosbarthiadau meistr, cwisiau a sgyrsiau wedi'u hwyluso. Cafwyd ymateb gwych
  • Fe wnaethom gyfathrebu â grwpiau cenedlaethol a Cholegau Brenhinol i gael eu barn.
  • Fe wnaethom hwyluso gweithdai rhithwir gyda'r fforwm iechyd meddwl a lles cenedlaethol ac ymgynghori â nifer o unigolion â phrofiad bywyd trwy ein digwyddiad ymgysylltu mis o hyd.
  • Gweithiom mewn partneriaeth â Thîm Cydweithredol GIG Cymru a siaradodd â dros 200 o staff rheng flaen sy’n oedolion ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Yn ogystal, cyfarfuom â grwpiau fel y CAMHS a grwpiau arweiniol clinigol amenedigol ac is-grwpiau’r byrddau rhwydwaith i gael safbwynt byrddau iechyd.
  • Gofynnom i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ysgrifennu atom am y 7 thema yn y cynllun gweithlu, ac ymgynghorwyd â gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ystod ein digwyddiad ymgynghori rhithwir.
  • Fe wnaethom hwyluso tri gweithdy gyda 42 o sefydliadau trydydd sector yn y gofod iechyd meddwl a llesiant, i ddisgrifio eu cyfraniadau, ac i nodi heriau a chyfleoedd yn y sector.
  • Fe wnaethom hwyluso nifer o gyfarfodydd a gweithdai gyda’r rheini sy’n darparu ymyriadau seicolegol, gan gynnwys seicolegwyr, cynghorwyr, nyrsys, ymarferwyr seicolegol ac ymarferwyr llesiant, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gweithwyr cymdeithasol ac eraill, i ddeall ehangder y gwaith sydd ei angen. Gwnaethom hefyd gysylltu â grwpiau a rhaglenni cenedlaethol presennol, a chynnal cyfarfodydd â chyrff cenedlaethol.
  • Dysgom ni gan grŵp gorchwyl a gorffen cyfoedion y rhwydwaith oedolion am botensial datblygu rolau cymorth gan gymheiriaid yng Nghymru – dros 3 sesiwn, gyda chyfranogiad gan bob un o’r 7 bwrdd iechyd, gweithwyr cymheiriaid presennol, y Recovery College a chynrychiolwyr o’r fforwm, fe wnaethom amlinellu nifer o gamau er mwyn datblygu’r cynllun.

Cyn ymgynghori, rydym hefyd wedi cael y cyfle i brofi camau gweithredu sy’n dod i’r amlwg gyda nifer o bartneriaid, gan gynnwys Cadeirydd a Rheolwr Bwrdd y Rhwydwaith, y Coleg Nyrsio Brenhinol, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a’r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid.

 

Trosolwg o’r NEGESEUON ALLWEDDOL

Thema 1:

Gweithlu Ymgysylltiol, Brwdfrydig ac Iach

  • Canfu ein harolwg nad yw 39% o staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, tra nad yw 40% yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae angen newid hyn i ddarparu cyfleoedd gyrfa deniadol ac i gefnogi lles staff.
  • Soniodd y staff am enghreifftiau cadarnhaol iawn o waith yr oeddent yn teimlo'n falch ohono, a dywedasant eu bod yn teimlo bod eu gyrfaoedd yn rhoi boddhad iddynt.
  • Yn ogystal, dywedodd staff, oherwydd pwysau amrywiol, fod yna ddiffyg cefnogaeth ar adegau a gall fod diffyg goruchwyliaeth.
  • Tynnwyd sylw at les staff fel rhywbeth hanfodol bwysig i’r gweithlu, yn enwedig o ystyried pwysau diweddar a llwythi gwaith mawr.
  • Clywsom nad oes unrhyw ddull strategol o gomisiynu neu ddarparu hyfforddiant, ac nid oes unrhyw gymhellion i gefnogi staff i hyfforddi ac yna i ddarparu ymyriadau seicolegol.
  • Roedd rhai rhanbarthau'n dibynnu'n bennaf ar seicolegwyr, tra bod eraill yn hyrwyddo proffesiynau mwy newydd.
  • Mae angen cyflogau ac amodau cyfartal ar draws sectorau. 
  • Siaradodd pobl â phrofiad bywyd am bwysigrwydd bod staff yn agored ac yn barod i wrando, ac mai'r pethau pwysicaf oedd y berthynas therapiwtig. Roedd teimlad y byddai cefnogi newid diwylliant i ddull tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cefnogi hyn yn well.
  • Mae angen codi proffil AHPs a chydnabod y gwerth a ddaw yn eu sgil.
  • Mae staff yn adrodd am lefelau uchel o ymrwymiad, sgil a thosturi tuag at eu gwaith, ond maent o’r farn nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, gyda llawer o ansicrwydd o ran contractau tymor byr a diffyg llais canfyddedig o gwmpas y bwrdd mewn fforymau gwneud penderfyniadau.
  • Mae’r gweithlu cymheiriaid yn weddol newydd i Gymru – nid ydym eto wedi sefydlu strwythur gyrfa cymorth cymheiriaid cryf, yn wahanol i wledydd eraill y DU a gwledydd rhyngwladol. Mae gan bob rhanbarth yng Nghymru ddiddordeb mewn dilyn y trywydd hwn ymhellach. Mae llawer o gefnogaeth i ddatblygu cynllun ‘unwaith i Gymru’ i ymgorffori rolau cymheiriaid.

Thema 2:

Denu a Recriwtio

  • Datblygu fframweithiau datblygu gyrfa sy'n cynnwys llwybrau anhraddodiadol.
  • Canfu ein harolwg mai dim ond 48% o ymatebwyr sy’n teimlo bod iechyd meddwl yn ddewis gyrfa poblogaidd, er y byddai 80% yn ei argymell i eraill.
  • Mae swyddi â chyflogau isel neu swyddi di-dâl sy'n rhai tymor byr yn peri heriau o ran recriwtio a throsiant. Byddai strwythurau sy'n annog cyllid craidd yn cryfhau'r sector ac yn helpu i godi'r proffil.
  • Byddai digwyddiad arddangos blynyddol i dynnu sylw at gyfraniadau’r trydydd sector yn helpu i rannu gwaith cyffrous.
  • Mae angen data a chanlyniadau mwy cadarn o ran cynllunio’r gweithlu er mwyn deall bylchau a chyfleoedd.
  • Mae angen mwy o amrywiaeth yn y gweithlu.
  • Mae angen ystyried y canllawiau drafft ar ymgysylltu a gynhyrchwyd gan y fforwm iechyd meddwl a lles, a'i oblygiadau i'r gweithlu (a ragwelir yng ngwanwyn 2022). Mae hyn yn cwmpasu ystod eang o oblygiadau gweithlu megis manylion o ran Recriwtio, Ymgysylltu, Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth. Nodwyd y dylai'r rheini â phrofiad bywyd fod ar baneli recriwtio.
  • Mae angen recriwtio staff profiadol o bob proffesiwn.
  • Dylai gwaith gael ei wneud gyda phrifysgolion.
  • Mae angen cynnal mwy o waith archwilio o ran rolau newydd, e.e. gweithwyr cymheiriaid.
  • Mae anawsterau recriwtio ar gyfer rolau ar draws y gweithlu – er enghraifft, rhagwelir y bydd prinder myfyrwyr therapi galwedigaethol i fodloni’r galw a nodir mewn IMTPs.
  • Mae angen mwy o gysondeb o ran bandio swyddi.
  • Byddai llwybrau gyrfa newydd yn denu ystod ehangach o weithwyr proffesiynol i feysydd cysylltiedig â seicoleg.
  • Byddai dulliau modiwlaidd o ddysgu yn ategu rhaglenni meistr dwysach, gan uwchsgilio’r gweithlu a gwneud swyddi’n ddeniadol i raddedigion newydd.
  • Dylid datblygu fframwaith cymhwysedd a hyfforddiant.
  • Yng Nghymru, ar hyn o bryd, mae 3 ‘bwrdd iechyd cyflawni’ gyda staff cymorth cymheiriaid, a 4 bwrdd iechyd ‘sefydliad dysgu’, hynny yw, y rheini sydd â diddordeb mawr mewn cyflogi gweithwyr cymheiriaid yn y dyfodol agos. Mae'r sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol hefyd yn cyflogi gweithwyr cymheiriaid (niferoedd anhysbys).

 

Thema 3:

Modelau Gweithlu Di-dor

  • Siaradodd pobl â phrofiad bywyd am yr heriau y daethant ar eu traws wrth geisio tramwyo systemau rhy gymhleth, gan gael eu 'bownsio' rhwng timau. Mae'n bwysig bod llais y gofalwyr yn cael ei glywed.
  • Un o'r negeseuon cryfaf oedd gofal 'person cyfan' cyfannol a chanolbwyntio ar werth perthnasoedd yn y gymuned, mannau awyr agored, chwaraeon, celfyddydau ac ati, yn hytrach na dim ond yr ochr feddygol.
  • Gwell gofal mewn argyfwng / trallod, e.e. mwy o dai argyfwng a chanolfannau / hybiau galw heibio cymunedol i gael mynediad at ystod o gefnogaeth.
  • Siaradodd staff am effaith y pandemig o ran creu mwy o bellter rhwng staff gofal iechyd a staff gofal cymdeithasol, gyda rhai yn dal i weithio gartref ac eraill wedi aros yn y swyddfa .
  • Mynegodd staff awydd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o adnoddau cymunedol / un lle canolog i allu cael cymorth a chydweithio'n well.
  • Mae angen arallgyfeirio sefydliadau arweinyddiaeth cenedlaethol presennol i gynnwys ystod ehangach o staff sy'n darparu ymyriadau seicolegol.
  • Dywedodd y timau fod angen mwy o fuddsoddiad wedi’i dargedu a chymorth arnynt i gyflawni cynlluniau gweithredu Matrics Cymru a’r Matrics Plant yng Nghymru.
  • Mae angen cynnal gwaith cwmpasu i ddeall cyfleoedd ar gyfer cyd-gynhyrchu a dysgu ar y cyd, yn ogystal ag adolygu rolau cymheiriaid presennol ar draws sectorau.
  • Rhaid rhoi’r unigolyn yng nghanol yr holl fodelau gwasanaeth a gweithlu. Mae angen cynnal mwy o waith er mwyn cyflawni integreiddio.
  • Dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod angen adolygiad o’n modelau ar gyfer iechyd meddwl, sy’n dameidiog ac sy’n achosi oedi a phrofiad negyddol i’r unigolyn sy’n ceisio tramwyo gwasanaethau.
  • Dylid adeiladu ar arfer da – mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gweithio mewn rolau newydd cyffrous mewn meddygfeydd, adrannau achosion brys a gyda’r heddlu / gwasanaeth ambiwlans. Dylai partneriaid gyflogi gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol, gan gefnogi adferiad iechyd corfforol a meddyliol a gweld y person cyfan.
  • Mae angen gwell llwybrau er mwyn sicrhau gweithio mwy di-dor ar draws sectorau.
  • Mae’r trydydd sector yn cefnogi gweithio’n ddi-dor o amgylch yr unigolyn, gan weithio mewn ffordd anfeddygol nad yw’n stigmateiddio, sy’n cefnogi nodau adferiad unigol a gweithgarwch ystyrlon. Ymyriadau gwerthfawr, naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth â sefydliadau eraill – mae sawl enghraifft wych o’r trydydd sector yn gweithio gyda phartneriaid statudol i adeiladu arnynt. Mynediad haws, gan osgoi 'syrthio drwy'r craciau'.

Thema 4:

Adeiladu Gweithlu sy’n Barod yn Ddigidol

 

  • Mae cefnogi gweithdrefnau casglu data a chanlyniadau mwy cadarn yn flaenoriaeth allweddol – nid ydym yn gwybod beth nad ydym yn ei wybod.
  • Mae cyflwyno ymyriadau mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, e.e. canllawiau ar-lein neu hunangymorth, yn ddymunol ac yn angenrheidiol.
  • Mae angen i ni wneud y mwyaf o’r potensial i ddefnyddio technoleg i wella mynediad (hynny yw, defnyddio technoleg ffôn a fideo, mynediad at arbenigeddau trwy ‘Consult Connect’ ac ati).
  • Gallai offer digidol helpu i gydlynu data. Dywedodd 68% o randdeiliaid fod angen uwchraddio adnoddau digidol.
  • Mae telefeddygaeth yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i weld cleifion gan bob proffesiwn gofal iechyd, yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig. Fodd bynnag, mae llawer o rwystrau y mae angen eu hystyried o ran cleifion yn cael mynediad at y gwasanaethau hyn.
  • Gyda Covid, mae cynnydd yn y defnydd o dechnolegau digidol wedi arwain at gynnydd mawr o ran mynediad o bell at gymorth, a dylid archwilio hyn ymhellach gan ei fod yn berthnasol i waith cymheiriaid.
  • Roedd barn gymysg ar y defnydd o dechnoleg i ddarparu cymorth – roedd rhai yn ei chael yn gyfleus ac yn ddefnyddiol, tra bod eraill yn teimlo ei bod yn anodd neu’n sôn am ddiffyg offer TG priodol i gymryd rhan. Mynegodd llawer y byddai'n well ganddynt ryngweithio 'dynol', wyneb yn wyneb, â'u tîm gofal.
  • Defnyddiwyd sianeli cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnodau clo Covid, ac i leddfu arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Wedi ymaddasu'n gyflym i addasu i ffyrdd newydd o weithio a helpu pobl i helpu eu hunain.
  • Darparwyd llawer iawn o adnoddau ar-lein i gefnogi lles y boblogaeth, yn aml heb gyllid ychwanegol.
  • I werthuso ac adeiladu ar ffyrdd newydd o weithio / datrysiadau digidol (er enghraifft, therapyddion galwedigaethol yn defnyddio negeseuon testun, iPads ar wardiau cleifion mewnol, ffisiotherapyddion yn darparu rhaglenni ymarfer o bell). I ddysgu o amodau a oedd yn caniatáu newidiadau cyflym ac arloesi heb gael eich dal mewn biwrocratiaeth arferol.
  • Soniodd y staff am rwystrau sylweddol a achosir gan systemau TG sydd wedi dyddio - roedd cefnogaeth gyffredinol i system TG ‘unwaith i Gymru’, ond nid oedd unrhyw optimistiaeth y byddai hyn yn symud ymlaen.
  • Nid oedd gan staff fynediad at iPad, ffonau symudol na ffyrdd eraill o gefnogi gofal yn y gymuned.
  • Roedd staff yn aml yn mewnbynnu gwybodaeth i systemau TG dwbl neu driphlyg, gan olygu bod pethau'n cael eu methu a chynyddu'r baich gweinyddol.

 

Thema 5: Addysg a Dysgu Ardderchog

  • Mynegodd staff brofiadau amrywiol o ran cyfleoedd hyfforddi, gyda rhai yn teimlo eu bod wedi cael hyfforddiant rhagorol ac eraill nad oeddent wedi cael cynnig unrhyw gyrsiau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae angen ymagwedd fwy strategol at hyn ledled Cymru.
  • Gallai'r rheini ag arbenigedd ymarferol gynnig hyfforddiant i staff gyda fframwaith a chefnogaeth briodol.
  • Siaradodd y rheini â phrofiad bywyd am yr angen i gynnig hyfforddiant iechyd meddwl mewn ystod ehangach o leoliadau, megis meddygfeydd / ysgolion / yn gyhoeddus.
  • Byddai cyfleoedd / fframwaith hyfforddi yn cefnogi dysgu mwy cyson.
  • Mae’r trydydd sector yn cefnogi cynlluniau adeiladu capasiti cymunedol, trwy weithio â grwpiau cymunedol i gryfhau a grymuso.
  • Mae angen cyd-gynhyrchu fframwaith cymhwysedd ar gyfer gweithwyr dwysedd isel.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu nifer fawr o leoedd hyfforddi yn ganolog ar gyfer rhai o’r therapïau a nodir yn y Matrics, er mwyn mynd i’r afael â’r prinder staff sy’n gallu darparu’r rhain, fel sydd wedi’i wneud yng ngweddill y DU.
  • Mae angen gwella llythrennedd ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar draws pob grŵp staff ac ar lefel poblogaeth.
  • Ystyried addysg a hyfforddiant sy’n mynd i’r afael â bylchau, e.e. rolau rhagnodi anfeddygol.
  • Byddai uwchraddio’r Recovery College er budd y rheini ledled Cymru yn gadarnhaol iawn.  
  • Mae nifer o gyrsiau gwahanol o ansawdd amrywiol ar gael ledled Cymru. Mae’r grŵp T&F yn argymell dull unwaith i Gymru o ymsefydlu, hyfforddi a goruchwylio, wedi’i fodelu ar fframwaith cymhwysedd HEE ar gyfer gweithwyr cymheiriaid.
  • Hyrwyddo dysgu rhyngddisgyblaethol i sicrhau safoni dulliau a methodolegau.
  • Mae angen offer / fframweithiau hyfforddiant iechyd meddwl ac adnoddau cyffredinol.

Thema 6: Arweinyddiaeth ac Olyniaeth

  • Trwy symud tuag at lwyfannau ariannu mwy integredig, tymor hwy, ar gyfer y trydydd sector, bydd hynny’n sicrhau sefydlogrwydd ac yn meithrin mwy o arweinyddiaeth a chynllunio ar gyfer olyniaeth.
  • Siaradodd pobl am ddiffyg amrywiaeth yn y gweithlu a’r angen i wasanaethau adlewyrchu’r boblogaeth, a all fod yn rhwystr i’r rheini na fyddent o bosibl yn cael mynediad at gymorth fel arall.
  • Teimlwyd hefyd bod hi’n bwysig rhoi pwyslais ar ddulliau gweithredu a arweinir gan gymheiriaid, a symudiad tuag at leisiau mwy cyfartal ar draws grwpiau proffesiynol .
  • Mae angen swydd arweinyddiaeth glinigol genedlaethol, yn ogystal â gwneud gwaith i ddatblygu corff llywio cryfach sy'n cefnogi timau gweithredu lleol i ddarparu'r Matrics. Bydd angen gweithio gyda phartneriaid academaidd ac arbenigwyr i yrru gwaith yn ei flaen yn gyflym ac i gryfhau’r seilwaith.
  • Amlygwyd nifer o adnoddau presennol - neges gref o angen am ddatblygu mwy o arweinwyr tosturiol i ysgogi trawsnewid systemau a gwelliant mewn iechyd meddwl. Nid oedd 54% o staff yn ymwybodol o unrhyw gynllunio olyniaeth yn eu sefydliad.
  • Soniodd staff am ddiffyg cyfleoedd i gyfrannu at y broses benderfynu ar lefel leol ar adegau, ac o deimlo 'allan o'r ddolen' o ran y gweithgareddau trawsnewid sy’n digwydd. Roedd awydd i ddatblygu sgiliau ac i arweinwyr ymgynghori â phawb, o unigolion sy’n cael cymorth i uwch-reolwyr, yn fwy effeithiol ac mewn modd tosturiol.
  • Mae angen llwybrau gyrfa clir ar AHPs sy’n hwyluso rolau arbenigol ac uwch, yn ogystal â chefnogi modelau arweinyddiaeth tosturiol.
  • Mae rhai proffesiynau, e.e. therapi celf, yn eistedd y tu allan i wasanaethau statudol i raddau helaeth, ond dylid eu hymgorffori o fewn timau fel gwasanaethau craidd.
  • Ar hyn o bryd, nid oes cymorth canolog na mecanwaith datblygu ar gyfer cymorth cymheiriaid yng Nghymru. Dylid sefydlu grŵp llywio cymorth cymheiriaid i weithio'n agos gydag AaGIC. Dylid penodi arweinydd cymorth cymheiriaid cenedlaethol i hybu datblygiad y proffesiwn hwn yng Nghymru.

 

Thema 7: Cyflenwad a Ffurf y Gweithlu

  • Nid yw 71% o'r staff yn teimlo bod lefelau staffio yn ddigonol i fodloni'r galw ac i gynnig gwasanaeth cynaliadwy.
  • Nodwyd cymhwysedd goruchwylio fel her fawr.
  • Mae diffyg mawr o ran cymhwysedd seicoleg – mae Cymru wedi disgyn y tu ôl i wledydd eraill y DU.
  • Mae rhai pobl yn aros am 2-4 blynedd i dderbyn cymorth oherwydd rhestrau aros.
  • Ar hyn o bryd, dim ond 36 o weithwyr cymheiriaid a gyflogir yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd yng Nghymru (mae llawer mwy yn y sectorau gwirfoddol/gofal cymdeithasol). Mae'r disgrifiadau swydd / manylebau person yn amrywiol ac yn anghyson. Mae angen datblygu disgrifiadau swydd ‘unwaith i Gymru’ a bandiau ar gyfer rolau cymheiriaid.
  • Dylai AHPs fod yn rhywbeth y mae'n ‘rhaid’ ei gael, nid dim ond rhywbeth sy'n 'neis ei gael'. Maent yn cefnogi'r agweddau bioseicogymdeithasol ar ofal sydd mor bwysig i gadw pobl yn iach. Mae angen gwneud rhagor o waith i ddeall y gweithlu AHP.
  • Roedd pobl yn teimlo bod staff yn aml yn ymddangos yn frysiog ac yn brysur iawn, a oedd yn eu harwain i deimlo na allent alw i siarad gyda nhw am unrhyw bryderon oedd ganddynt.
  • Gofynnodd pobl am weithlu amrywiol, gyda mwy o gefnogaeth a gweithwyr cymheiriaid i gynorthwyo gyda mynychu gweithgareddau cymunedol.
  • Mae angen datblygu ffordd o gofnodi a monitro gwybodaeth gweithlu ar gyfer y trydydd sector.
  • Mae angen mwy o gydraddoldeb cyflog, a chyflenwad dibynadwy o wirfoddolwyr ymroddedig, staff cymorth ac arbenigwyr, er mwyn darparu gwasanaethau trydydd sector yn y dyfodol. Mae angen gwneud mwy i amddiffyn y gwasanaethau hanfodol hyn yn y gymuned.
  • Soniodd staff am ddiffyg mewn rhai meysydd, e.e. gallu cael mynediad at Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy neu feddygol Adran 12, wrth gynnal asesiadau Deddf Iechyd Meddwl.
  • Soniodd staff am yr angen i weithio'n well gydag unigolion yn yr amgylchedd, hynny yw, tynnu ar arbenigedd athrawon, cynghorwyr arweiniad, hyfforddwyr chwaraeon ac ati.

 

 

                                                                                                    GYDA PHWY RYDYM NI WEDI YMGYSYLLTU?

** Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, ond mae’n dangos ystod yr ymgysylltiad a’r cyfraniad sydd wedi digwydd wrth ddatblygu Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru. Rydym wedi ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid oherwydd natur amrywiol y gynulleidfa. Rydym yn awyddus i sicrhau bod ystod ehangach fyth o gynrychiolwyr, grwpiau ac unigolion yn cael y cyfle i gyfrannu, ac felly byddwn yn parhau i ymgysylltu trwy gydol y cyfnod ymgynghori a thu hwnt. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r gwaith ac sydd wedi treulio amser yn rhannu eu safbwyntiau a’u syniadau gyda ni, yn enwedig tra bod gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fod yn hanfodol ac yn gwbl weithredol yn ystod pandemig Covid-19. **

 

Grwpiau AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Bwrdd Prosiect Iechyd Meddwl

Grŵp Ymgynghori Rhanddeiliaid Iechyd Meddwl

Pwyllgor Gwelliant Gofal Cymdeithasol Cymru

Rhwydwaith Arweinwyr Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy Cymru Gyfan

Grwpiau T&F AaGIC / Gofal Cymdeithasol Cymru: Plant a Phobl Ifanc, Therapïau Amenedigol a Seicolegol

Bwrdd ar y cyd AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru

Uwch Dîm Arweinyddiaeth AaGIC

Bwrdd Rhwydwaith Iechyd Meddwl  

Grŵp Cyfeirio Strategol AaGIC

Addysg a Chomisiynu AaGIC

Trefnu a Datblygu Gweithlu AaGIC

 

Grwpiau Llywodraeth, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio Llywodraeth Cymru

Cyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddor Iechyd Llywodraeth Cymru

Arweinwyr Polisi Llywodraeth Cymru

Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Meddwl a Lleiafrifoedd Ethnig Llywodraeth Cymru/WAMH

Arweinydd Strategaeth ac Uwch Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru

Pwyllgor Cynghori ar Therapïau Cymru (WTAC) Llywodraeth yr Alban

 

Colegau Brenhinol, Cymdeithasau a Chyrff Cofrestredig, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Coleg Brenhinol Therapyddion Galwedigaethol – Is-grŵp Iechyd Meddwl

Y Coleg Nyrsio Brenhinol

Coleg Brenhinol Therapi Galwedigaethol

Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith

Coleg Brenhinol Seiciatryddion (Cymru)

Coleg Brenhinol Seiciatryddion (Yr Alban)

Grŵp Cynghori Arbenigol Iechyd Meddwl y Coleg Brenhinol

Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)

Isadran Seicoleg Glinigol (DCP)

Cymdeithas y Seicolegwyr Clinigol (ACP)

Isadran Seicoleg Cwnsela (DoCP)

Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP)

Cymdeithas Seicotherapïau Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP)

Cymdeithas Brydeinig Gweithwyr Cymdeithasol Cymru (BASW Cymru)

Cymdeithas y Technegwyr Fferylliaeth

Company Chemists' Association

Cymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cyngor Fferyllol Cyffredinol

Cymdeithas Fferyllol Frenhinol

Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC)

Grwpiau trydydd sector, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru (WAMH)

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)

Adferiad Recovery

Hafal

Platfform

Y Samariaid

Diverse Cymru

Sefydliad Iechyd Meddwl

Mental Health Matters Wales

Canolfan Gymraeg am Weithredu ar Ddibyniaeth (WCADA)

Mind Cymru

 

Amrywiaeth o feysydd gwasanaeth a grwpiau eraill, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Cyllid

Seiciatryddion Iechyd Meddwl Amenedigol Ymgynghorol

Seicolegwyr Amenedigol

Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

Therapyddion Galwedigaethol Amenedigol

Ymarferwyr Iechyd Meddwl

Iechyd Meddwl Babanod / Iechyd Meddwl Blynyddoedd Cynnar

Nyrsys Meithrin

Gweithwyr Cymdeithasol

Cefnogwyr Cymheiriaid

Timau Perthnasoedd Rhieni-Babanod

Ffisiotherapyddion

Obstetreg a Gynaecoleg

Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta

Gwasanaethau Dementia

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn

Therapyddion Seicolegol

Gwasanaethau Argyfwng

Seiciatreg mewn Iechyd Meddwl – Adran 12 – Therapïau Celf

Bydwragedd Iechyd Meddwl Amenedigol Arbenigol

Gwasanaethau Profedigaeth

Ymwelwyr Iechyd Arbenigol

Dechrau'n Deg

Cydweithwyr Newyddenedigol

Gwasanaethau Cam-drin Alcohol a Sylweddau

Adrannau Brys/Unedau Mân Anafiadau

Comisiynydd Pobl Hŷn, Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Plant

Cynrychiolwyr gofalwyr

Arweinwyr Diogelu

Gwasanaethau Anabledd Dysgu

Digartref / Ceiswyr Lloches

Cam-drin Domestig / Carchardai / Teithwyr / Diwylliannol

 

 

 

Sefydliadau / grwpiau / fforymau allanol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth

Cyfarwyddwyr y Grŵp Gweithlu

Cyfarwyddwyr Meddygol

Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS)

Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion (AWASH)

Penaethiaid Gwasanaethau Plant (AWHOCs)

Penaethiaid Seiciatreg

Improvement Cymru

Pwyllgor Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cymru (WAHPC)

Rhwydwaith Iechyd Meddwl Cymru Gyfan

Bwrdd (ac is-grwpiau) Rhwydwaith Iechyd Meddwl

Fforwm Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru Gyfan (pobl â phrofiad bywyd)

Rhwydwaith Arweinwyr MHPT Cymru Gyfan

Rheolwyr Gweithlu Awdurdod Lleol

Grŵp Staffio Nyrsys Cymru Gyfan

Grŵp Nyrsys Uwch Cymru Gyfan

Cyfarfodydd Grwpiau Niwroddatblygiad Plant a Phobl Ifanc Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (T4MH)

Rhwydwaith Arweinwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy Cymru Gyfan

Cyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol (DPCC)

Is-grŵp Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

Is-grŵp Bwrdd Rhwydwaith Iechyd Meddwl Oedolion

Is-grŵp Amenedigol Cydweithredol

Grŵp Cynllunio Iechyd a Gofal

Is-grŵp Anhwylderau Bwyta

Pwyllgor Rheoli Therapïau Seicolegol Cenedlaethol Cymru (NPTMC)

Grŵp Hyfforddi Iechyd Meddwl Amenedigol

Pwyllgor Hyfforddi Seicoleg Iechyd Meddwl Cenedlaethol (NPTMHC)

Fferylliaeth Gymunedol Cymru (CPW)

Straen Trawmatig Cymru

Grŵp niwroddatblygiadol

Grŵp Iechyd Meddwl Nyrsys Ymgynghorol

Grŵp Cydweithredu Iechyd Meddwl GIG Cymru

Uned Gomisiynu Cydweithredol GIG Cymru

Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol

Rheolwyr Gweithlu Awdurdod Lleol

Grwpiau Gwasanaeth Gwladol

Arolygiaeth Iechyd Cymru

Arolygiaeth Gofal Cymru

Grŵp Cynghori Arbennig Cenedlaethol Seicolegwyr Perthynol i Iechyd

Penaethiaid Ymwelwyr Iechyd a Nyrsio Ysgolion

Fforwm Ymgynghorol Therapïau Celf Cymru

Grŵp Is-gadeiryddion a Grŵp Cyfoedion Is-gadeiryddion

Cyfarfod Rhwydwaith Cynllunio'r Gweithlu

Grŵp Fferyllwyr Amenedigol

Penaethiaid Seicoleg

Penaethiaid Bydwreigiaeth

 

 

 

 

 

Adroddiad Penodol i Broffesiwn

 

Gellir cael mynediad at yr adroddiadau trwy’r dolenni

Cynhadledd Rithwir AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru: Yn rhedeg trwy gydol mis Hydref 2020, cynlluniwyd Cynhadledd Iechyd Meddwl Rithwir gyntaf AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu cyfle i rannu’r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo yn y sector Iechyd Meddwl yng Nghymru, a helpu i lunio dyfodol cynllun gweithlu Iechyd Meddwl Cymru fel un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru a chefnogi Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022

RCPsych Rhagfyr 2021: Nid oes amheuaeth nad oes angen cynllun clir ac uchelgeisiol i ateb y galw cynyddol am ofal cleifion sydd ei angen ar gyfer ardal o'r gwasanaeth iechyd nad yw'n gweithredu'n gyfartal ag ardaloedd eraill

Adroddiad Digwyddiad Therapïau Celf Ebrill 2021: Cyflwynodd AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru ddigwyddiad arddangos Therapïau Celf am wythnos ym mis Ebrill 2021. Pwrpas y digwyddiad hwn oedd archwilio gwerth y pedwar Therapi Celf, sef Celf, Drama, Symudiad Dawns a Cherddoriaeth, o ran darparu cymorth iechyd meddwl i ddinasyddion a chefnogi gwasanaethau eraill. Roedd yr archwiliad hwn yn rhan o ymarfer cwmpasu ehangach i ddatblygu modelau gofal newydd neu amgen o fewn maes Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru i’w hystyried a’u cynnwys yng Nghynllun Iechyd Meddwl 10 Mlynedd y Gweithlu, a fydd yn cael ei gyflwyno gan AaGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn adroddiad digwyddiad Therapïau Celf

ASD a Deieteg IM BDA, Hydref 2021: Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a’r Fro (IAS) yn wasanaeth awtistiaeth oedolion arbenigol aml-asiantaeth, sy’n gydweithrediad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd y Brifysgol. Mae'r tîm yn dîm amlddisgyblaethol o glinigwyr iechyd a Gweithwyr Cymunedol Awtistiaeth awdurdodau lleol. Ceir rhagor o wybodaeth yn Deieteg IM BDA

Dietegwyr ac iechyd meddwl, Tachwedd 2021: Mae pobl sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol (SMI) yn wynebu un o'r bylchau anghydraddoldeb iechyd mwyaf. Mae disgwyliad oes pobl â salwch meddwl difrifol 15-20 mlynedd yn is na’r boblogaeth gyffredinol. Mae'r gwahaniaeth hwn mewn deilliannau iechyd yn rhannol oherwydd nad yw anghenion iechyd corfforol yn cael eu blaenoriaethu, a diffyg ymgysylltu â gofal sylfaenol. Ceir rhagor o wybodaeth yn Dietegwyr ac iechyd meddwl

Argymhellion y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl ar gyfer Fferylliaeth yng Nghymru, Tachwedd 2021: Y GWEITHLU FFERYLLOL yw'r tîm fferyllol cyfan – pob rôl ym mhob sector. Mae rhai enghreifftiau, ond heb fod yn gyfyngedig i, yn cynnwys: cynorthwyydd cownter gofal iechyd mewn fferyllfa gymunedol, fferyllydd ward arbenigol mewn ysbyty, Technegydd Fferylliaeth yn gweithio mewn meddygfa ym maes gofal sylfaenol, swyddog technegol cynorthwyol fferyllfa yn gweithio yn adran fferylliaeth yr ysbyty Argymhellion y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl ar gyfer Fferylliaeth yng Nghymru

Y gweithlu Therapi Lleferydd ac Iaith (SLT) posibl o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru: Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith (RCSLT) yng Nghymru yn ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at ddatblygiad cynllun gweithlu iechyd meddwl newydd Gofal Cymdeithasol Cymru / Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Rydym yn ystyried y cynllun i fod yn gyfle gwirioneddol i ailfodelu’r ddarpariaeth bresennol a chreu gwasanaethau cynaliadwy sy’n sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl priodol Y gweithlu Therapi Lleferydd ac Iaith (SLT) posibl o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru

Therapi Galwedigaethol ym maes Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Gorffennaf 2021: Therapi galwedigaethol yw'r gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd mwyaf sy'n darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru. Mae Therapyddion Galwedigaethol yn rhan annatod o wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu traddodiadol yn y sectorau statudol ac annibynnol. Yn fwy diweddar, mae swyddi therapi galwedigaethol sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl yn cael eu datblygu mewn gwasanaethau gofal sylfaenol Therapi Galwedigaethol ym maes Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Adroddiad Ffisiotherapi: Y Gweithlu Iechyd Meddwl yng Nghymru, Medi 2019: Darperir gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol yng Nghymru gan y saith Bwrdd Iechyd. Maent yn rhychwantu sbectrwm eang o grwpiau oedran cleifion, poblogaethau ac arbenigeddau, gan gynnwys amenedigol; iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS); anhwylderau bwyta; oedolion (<65); gwasanaethau fforensig; gwasanaethau carchardai; camddefnyddio sylweddau; seiciatreg cyswllt, ac Iechyd Meddwl pobl hŷn. Mae cyfluniadau gwasanaeth yn cynnwys wardiau neu unedau cleifion mewnol arbenigol

Rôl podiatreg wrth gefnogi llesiant meddwl, Gorffennaf 2021: Dros y degawd diwethaf, bu ffocws cynyddol ar lesiant meddwl mewn polisi a thrafodaeth gyhoeddus. Creodd y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2012) gyfrifoldeb cyfreithiol newydd i’r GIG yn Lloegr i sicrhau ‘parch cyfartal’ i iechyd corfforol a meddyliol, gydag ymrwymiad tebyg wedi’i wneud yn Strategaeth Iechyd Meddwl yr Alban (2017). Os yw Llywodraethau ledled y DU am gyflawni’r ymrwymiadau hyn, mae’n hollbwysig bod rôl y grwpiau proffesiynol arbenigol ac amrywiol sy’n cefnogi llesiant meddwl yn cael ei ddeall Rôl podiatreg wrth gefnogi llesiant meddwl

Themâu Gweithdai’r Sector Gwirfoddol, Medi 2021: Fel rhan o’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, mae nifer o gyrff cenedlaethol yn cydweithio i gyflawni rhai rhaglenni gwaith allweddol a fydd yn dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yn y dyfodol. Bydd y wybodaeth a gesglir yn y gweithdai yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad cynllun gweithlu iechyd meddwl cenedlaethol. Bydd hefyd yn llywio gweledigaeth a rennir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol yng Nghymru a chanllawiau cysylltiedig Themâu Gweithdai’r Sector Gwirfoddol