Fel y gwyddoch, sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018, gan ddod â Deoniaeth Cymru, Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru (WEDS), a Chanolfan Addysg Broffesiynol Fferyllol Cymru (WCPPE) at ei gilydd.
Mae gennym rôl flaenllaw wrth gomisiynu a darparu addysg a hyfforddiant ar gyfer y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddeion meddygol a deintyddol, fferyllwyr, myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth, a myfyrwyr AHP.
Ym mis Mai 2019, dechreuon ni Sioe Deithiol AaGIC yn ymweld â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru i gwrdd â hyfforddeion gofal iechyd, myfyrwyr, addysgwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am addysg.
Mae'r Sioe Deithiol yn ein galluogi i gyflwyno AaGIC i'r rheini rydym heb gwrdd â ac i gadw mewn cysylltiad â myfyrwyr, hyfforddeion a chydweithwyr ledled Cymru rydym wedi cwrdd â o'r blaen. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ni wrando a chael adborth ar brofiadau addysg er mwyn ein galluogi i lywio darpariaeth addysg gofal iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae pob ymweliad sioe deithiol yn cael ei rannu'n ddwy sesiwn o awr a hanner yr un.
Ar ddechrau pob sesiwn bydd cyflwyniad rhagarweiniol byr. Bydd gweddill y sesiwn yn rhoi cyfle i sgwrsio â staff AaGIC, gofyn cwestiynau a rhoi eich syniadau i ni.
Gobeithiwn yn fawr y byddwch chi a'ch cydweithwyr yn gallu ymuno â ni yn un o'n sioeau teithiol. Os na fedrwch chi ddod i ddechrau sesiwn, mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd yn ystod y sesiwn.
Ar gyfer cydweithwyr mewn sefydliadau ledled Cymru, mae croeso i chi ymuno â sesiwn yn y sioe deithiol agosaf i chi.
Manylion sioe deithiol
I: holl fyfyrwyr gofal iechyd meddygol, deintyddol ac anfeddygol, hyfforddeion, hyfforddwyr, addysgwyr ac arweinwyr addysg.
Sefydliad |
Dyddiad |
Lleoliad |
Sesiwn 1 |
Sesiwn 2 |
Cwm Taf Morgannwg | 06/02/20 | Ystafelloedd 3 a 4, Canolfan Addysg Feddygol, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ynysmaerdy, Llantrisant, CF72 8XR | 9am - 10:30am | 10:30am - 12pm |
Cwm Taf Morgannwg | 06/02/20 | Ystafell ddosbarth 1, Canolfan Addysg Feddygol, Ysbyty's Tywysog Charles, Gurnos Road, Merthyr Tydfil, CF47 9DT | 2pm - 3:30pm | 3:30pm - 5pm |
Caerdydd a'r Fro |
16/03/20 |
Ail lawr, Adeiliad Cochrane, Ysbyty Athrofaol Cymru |
1pm - 2:30pm |
2:30pm - 4pm |
Lluniaeth: Bydd te, coffi a bisgedi ar gael.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech rannu'r gwahoddiad hwn ar draws eich sefydliad.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.