Mae angen arweinwyr mwy tosturiol ar ein GIG a fydd yn sicrhau diwylliant o les, gwelliant parhaus, bod yn agored a diogelwch seicolegol.
Er y bydd pob un ohonom yn disgrifio gweithle tosturiol iach ychydig yn wahanol, mae’r Athro Michael West a Chronfa’r Brenin yn amlygu bod angen tri pheth ar bob un ohonom:
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a GIG Cymru, mae AaGIC yn datblygu strategaeth i sefydlu arweinyddiaeth dosturiol; dull a ddatblygwyd gan yr Athro Michael West a Chronfa’r Brenin.
Rydym hefyd yn cynnig y cyfleoedd hyfforddi canlynol:
Mae arweinyddiaeth dosturiol ar ei symlaf yn ei gwneud yn ofynnol i bobl:
Mae tystiolaeth glir o’r cysylltiad rhwng y dulliau hyn, y ffocws ar les y gweithlu ac ansawdd gofal cleifion.
Mae porth arweinyddiaeth Gwella yn adnodd digidol sy’n rhoi mwy o wybodaeth am yr uchod i gyd, yn ogystal â mynediad at ystod eang o adnoddau arwain a rheoli tosturiol.
Mae ar gael i holl staff GIG Cymru.