Neidio i'r prif gynnwy

Cogydd Ysbyty

Beth yw Cogydd Ysbyty?

Mae cogydd ysbyty yn coginio llawer iawn o fwyd ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr ac ar gyfer digwyddiadau achlysurol.

Mae cogyddion yn gweithio yn un o wasanaethau arlwyo’r GIG, ac maen nhw’n cynorthwyo gyda’r gwaith paratoi, coginio, gweini a glanhau sy’n rhan o ddarparu gwasanaeth arlwyo o ansawdd uchel.

Ai cogydd ysbyty yw’r yrfa iawn imi?

Mae’n bwysig bod gennych ddiddordeb gwirioneddol ymhob agwedd ar fwyd, o baratoi bwyd i amrywio ryseitiau. Mae’n rhaid bod gennych ddealltwriaeth o hylendid bwyd a diogelwch bwyd hefyd.

Mae’n rhaid i gogydd ysbyty fod â:

  • sgiliau trefnu da, boed hynny wrth weithio mewn tîm neu’n annibynnol
  • cryfder corfforol fel bod modd gweithio mewn cegin boeth a swnllyd
  • hyblygrwydd a’r gallu i addasu i ofynion y gwasanaeth
  • y gallu i ymddwyn yn broffesiynol, ac yn barchus tuag at gwsmeriaid

Beth mae cogyddion ysbyty yn ei wneud?

Mae cogyddion ysbyty yn paratoi ac yn coginio bwyd gan ddilyn ryseitiau manwl, sydd wedi eu dylunio fel bod y bwyd o ansawdd uchel ac yn hynod o faethlon i helpu cleifion i adfer. Mae’r ryseitiau cenedlaethol hyn hefyd yn cyfrannu at wariant effeithlon, gan sicrhau y caiff dognau eu rheoli a bod llai o fwyd yn cael ei wastraffu. Mae cogydd ysbyty yn sicrhau bod safonau diogelwch bwyd llym yn cael eu dilyn, fel bod y prydau yn ddiogel i’w bwyta.

Dyma rai o ddyletswyddau cogydd ysbyty:

  • Paratoi prydau i ddiwallu anghenion dietegol neu ddiwylliannol cleifion
  • Gweini bwyd iach a blasus sy’n annog cleifion i fwyta
  • Paratoi prydau ar gyfer bwyty’r ysbyty ac ar gyfer bwffes / digwyddiadau achlysurol
  • Rheoli diogelwch bwyd ac ansawdd trwy fonitro tymheredd bwyd yn barhaus
  • Glanhau’r brif gegin a chyfarpar gan ddilyn manylebau glanhau a safonau hylendid

Ble mae cogyddion ysbyty yn gweithio?

Fel arfer, mae cogyddion ysbyty yn y GIG yn hyfforddi ac yn gweithio ym mhrif gegin yr ysbyty.

Faint mae cogyddion ysbyty yn ei ennill?

Yn y GIG, mae cogydd ysbyty yn cael ei dalu ar Fand 3. Ewch i’n hardan am Dâl a Buddion am ragor o wybodaeth

Pa gyfleoedd sydd ar gael i gogyddion ysbyty gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Caiff cogyddion ysbyty gyflwyniad i’r gwasanaeth, ei strwythurau a’u brosesau. Bydd cyfleoedd hefyd i astudio am ragor o gymwysterau a chwblhau cyrsiau byr mewn pynciau fel Hylendid Bwyd ac Ymwybyddiaeth o Alergenau, Iechyd a Diogelwch a Gofal Cwsmeriaid.

Gall cogyddion ysbyty gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y GIG trwy weithio mewn ceginau mwy, gweithio fel Pen Cogydd Cynorthwyol ac Arweinydd Tîm neu, ar ôl ennill profiad a chymwysterau, fel Goruchwyliwr Arlwyo.

Sut alla i ddod yn Gogydd Ysbyty?

Mae cyflogwyr yn disgwyl safon dda o addysg o’u cogyddion yn y GIG, ac mae’n bosibl y bydd angen TGAU, mewn llythrennedd a rhifedd yn enwedig. Bydd angen cymhwyster arlwyo arnoch, sef Coginio Proffesiynol fel arfer ar lefel 2 neu 3, ynghyd â thystysgrif Hylendid Bwyd gydnabyddedig. Bydd cyflogwyr yn disgwyl ichi fod â phrofiad o arlwyo hefyd. Mae rhai cogyddion yn dechrau yn y GIG fel cynorthwywyr arlwyo, ac yn cwblhau cymwysterau eraill wrth weithio. Byddai profiad o arlwyo a lletygarwch yn sicr o fantais, o waith llanw er enghraifft neu waith gwirfoddol.

Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru?

Mae nifer o gyrsiau mewn arlwyo a lletygarwch ar gael mewn colegau addysg bellach ledled Cymru:

Sut mae ennill profiad?

Mae nifer o gyfleoedd i ennill profiad o’r maes hwn yn y GIG:

  • Cyflogaeth lanw dros dro
  • Lleoliad gwirfoddol
  • Lefel mynediad fel cynorthwyydd arlwyo
  • Cymwysterau addysg bellach

Gallwch ennill profiad perthnasol o weithio mewn cegin brysur trwy unrhyw un o’r rhain.

Sut y galla i ymgeisio am swydd?

Am ragor o wybodaeth, i chwilio neu i wneud cais ar-lein, ewch i NHS Jobs.

Dolenni defnyddiol: