Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Theatr

Ai nyrs theatr ydy’r yrfa iawn i mi?

Er mwyn bod yn nyrs theatr, bydd angen i chi fod wedi cofrestru yn nyrs oedolionplantanableddau dysgu neu iechyd meddwl. Wrth iddynt weithio yn y theatr llawdriniaethau, mae nyrsys theatr yn cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal wedi’i deilwra.

Mae angen i nyrsys theatr fod:

  • Yn drefnus iawn, yn hyblyg ac â’r gallu i flaenoriaethu’n effeithiol
  • Â’r gallu i weithio mewn maes technegol iawn
  • Yn gywir ac yn fanwl iawn
  • Â’r gallu i ganolbwyntio am gyfnodau hir
  • Yn dda gyda phobl ac â sgiliau rhyngbersonol ardderchog
  • Â’r gallu i addasu i’r amgylchedd ac ymateb yn gyflym i argyfyngau mewn mannau cyfyng

Beth mae nyrs theatr yn ei wneud?

Mae nyrsys theatr yn rhoi gofal medrus o safon uchel, gan arbenigo yn un o’r tri cham gofal amdriniaethol:

  • Y cyfnod anaesthetig: cynorthwyo’r anaesthetegydd a pharatoi unrhyw gyfarpar, teclynnau a chyffuriau arbenigol. Asesu cleifion cyn i’r llawdriniaeth ddechrau.
  • Y cyfnod llawfeddygol: paratoi’r holl offer a chyfarpar cymhleth sydd eu hangen fel microsgopau, laserau ac endosgopau. Bod yn gyfrifol am offer/cyfarpar a swabiau llawfeddygol a’u rhoi i’r llawfeddyg yn ôl yr angen. Cyfryngu rhwng y tîm llawfeddygol â rhannau eraill o’r theatr a’r ysbyty.
  • Y cyfnod adfer: monitro iechyd y cleifion gan roi’r gofal priodol nes bod y cleifion wedi adfer o effeithiau’r anaesthesia a/neu’r llawdriniaeth. Asesu cleifion i sicrhau a allent gael eu rhyddhau yn ôl i ward.

Ble mae nyrsys theatr yn gweithio?

Fel arfer, mae nyrsys theatr yn gweithio yn y theatr llawdriniaethau a’r mannau anaesthetig/adfer. Hefyd, maent yn ymwneud â thriniaethau yn yr uned radioleg, yr uned gathetreiddio cardiaidd a’r uned achosion brys.

Byddwch yn gweithio gyda llawfeddygon, anaesthetegyddion, ymarferwyr adran triniaethau (ODPs), gweithwyr cymorth y theatr a phorthorion yn rhan o dîm mawr rhyngddisgyblaethol. Efallai byddwch yn gweithio gyda gwyddonwyr gofal iechyd fel awdiolegwyr a ffisiolegwyr cardiaidd.

Dolenni defnyddiol: