Ai nyrsio iechyd galwedigaethol yw’r yrfa iawn i mi?
Er mwyn bod yn nyrs iechyd galwedigaethol, bydd rhaid eich bod wedi cofrestru fel nyrs oedolion, plant, anghenion dysgu neu iechyd meddwl.
Rhaid i nyrsys iechyd galwedigaethol fod yn:
- Hynod o drefnus, hyblyg ac â’r gallu i flaenoriaethu yn effeithiol
- Tra chywir, ac â llygad barcud am fanylion
- Cyfathrebwyr da ac â’r gallu i ddatblygu perthnasau â phobl o amryw gefndiroedd
- Cardarn er mwyn sicrhau y caiff cyfarwyddiadau iechyd a diogelwch eu gweithredu
- Meddu ar y gallu i hyrwyddo iechyd a lles
- Hyderus ac â’r gallu i aros yn bwyllog mewn argyfwng
Beth mae nyrs iechyd galwedigaethol yn ei wneud?
Nyrsys iechyd cyhoeddus yw nyrsys iechyd galwedigaethol, sy’n darparu cyngor a chymorth i gyflogeion, cyflogwyr a rheolwyr. Maent yn arbenigo mewn iechyd a lles pobl sydd yn y gwaith.
Mae’r rôl yn amrywio gan ddibynnu ar anghenion y sefydliad sy’n eich cyflogi, ond gall gynnwys:
- Brechiadau yn y gweithle
- Sgrinio iechyd
- Cymryd samplau gwaed
- Cynghori ynghylch iechyd a lles yn y gweithile ac yn eu hyrwyddo
- Asesu a rheoli risgiau yn y gweithle
- Cynghori ynghylch addasiadau yn y gweithle ar gyfer cyflogeion sydd angen cymorth
- Ymgysylltu â chyflogeion, rheolwyr ac adnoddau dynol er mwyn rheoli salwch staff
- Cynorthwyo sefydliadau er mwyn datblygu polisïau a gweithdrefnau i gefnogi cyflogeion
Ble mae nyrsys iechyd galwedigaethol yn gweithio?
Gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, mae nyrsys iechyd galwedigaethol yn gweithio mewn amryw ddiwydiannau, gan gynnwys mewn iechyd, addysg a busnesau. Gall fod y cewch chi eich cyflogi fel ymarferydd annibynnol mewn sefydliad llai, neu y cewch chi eich cyflogi fel rhan o dîm iechyd galwedigaethol mewn sefydliad mwy fel y GIG, awdurdod lleol neu fusnes cadwyn mawr.
Dolenni defnyddiol