Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Ardal

Ai nyrsio ardal yw’r yrfa iawn i mi?

I fod yn nyrs ardal, bydd angen i chi fod yn oedolyn cofrestredig, plantanabledd dysgu neu nyrs iechyd meddwl.

Mae nyrsys ardal yn freintiedig i  gael darparu gofal cyfannol i gleifion yn eu cartrefi eu hunain a gall cleifion ddisgwyl cael eu trin fel unigolion â pharch, gyda phreifatrwydd ac urddas. Mae pob diwrnod yn wahanol i nyrsys ardal ac mae ymdeimlad o berthyn i’r gymuned y maent yn gweithio ynddi.

Yn gyfrifol am eu baich gwaith ac achosion eu hunain, mae angen i nyrsys ardal fod yn drefnus, yn hyderus ac yn gallu ymdopi mewn sefyllfaoedd a allai fod yn heriol. Maent hefyd yn goruchwylio ac yn arwain timau o staff cymunedol felly mae’n bwysig iddynt gael sgiliau arwain a rheoli.

Mae angen i nyrsys ardal fod yn:

  • Addasadwy ac yn ddyfeisgar
  • Gyfathrebwyr da, gwrandawyr da ac yn gallu cynnig cyngor
  • Gwneud penderfyniadau doeth
  • Ddatryswyr problemau

Beth mae nyrs ardal yn ei wneud?

Mae nyrsys ardal yn gangen o'r proffesiwn nyrsio sy'n cynnig gwasanaeth gofal iechyd i bobl sy'n methu ymweld â'r feddygfa ac sydd angen gofal, cyngor a chefnogaeth oherwydd eu bod yn gaeth i’r tŷ dros dro neu yn barhaol.

Yn dilyn atgyfeiriad gan yr ysbyty, meddyg teulu neu asiantaeth arall, bydd nyrs ardal yn cynnal asesiad anghenion iechyd a’u cyfeirio wedyn at wasanaethau eraill yn y gymuned. Mae nyrsys ardal yn chwarae rôl hanfodol wrth gadw derbyniadau ac aildderbyniadau i'r ysbyty mor isel as sydd bosib yn ogystal â sicrhau bod cleifion yn gallu dychwelyd i'w cartrefi eu hunain cyn gynted ag y bo modd.

Nod y gwasanaeth yw galluogi unigolion i gynnal annibyniaeth a chyflawni hunan-ofal. Efallai y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn cynnwys gofal clwyfau, rheoli y bledren neu'r coluddyn, profion ar bwynt gofal a gofal diwedd oes i gleifion.

Mae gan nyrsys ardal hefyd rôl ddysgu a rôl gefnogol, gan weithio gyda chleifion i'w galluogi i ofalu amdanynt eu hunain neu gydag aelodau o'r teulu sy'n gyfrifol am ofalu am eu perthnasau.

Ble mae nyrsys ardal yn gweithio?

Mae nyrsys ardal yn gweihtio mewn canolfannau iechyd neu mewn clinigau ac weithiau mewn meddygfa meddyg teulu ble maen nhw’n ymweld â chleifion sydd wedi’u cofrestru gyda’r feddygfa. Tra bo’r rhan fwyaf o’r gofal yn cael ei roi yng nghartref y claf, mae nyrsys ardal hefyd yn ymweld â chartrefi preswyl ac efallai yn cynnal sesiynau mewn meddygfa meddyg teulu neu mewn canolfannau iechyd.

Dolenni defnyddiol: