Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwyddorau Ffisiolegol

Mae staff gwyddor gofal iechyd sy’n gweithio ym maes y gwyddorau ffisiolegol yn ymchwilio i sut mae organau a systemau’r corff yn gweithio er mwyn rhoi diagnosis o annormaleddau, dod o hyd i ffyrdd o adfer swyddogaethau’r organau a’r systemau hyn a / neu leddfu ar ddifrifoldeb anableddau’r claf.

Wrth wneud hynny maent yn rhyngweithio wyneb yn wyneb â chleifion mewn ystod o feysydd. Gweler isod y manylion am yrfaoedd ym maes y gwyddorau ffisiolegol.

Yn y maes hwn, mae staff gwyddor gofal iechyd yn defnyddio offer arbenigol, technolegau datblygedig ac ystod o wahanol ddulliau yn eu gwaith i weld sut mae systemau yn y corff yn gweithio. Gallant gyfarwyddo a hefyd ddarparu ymyriadau therapiwtig a gofal a thriniaeth hirdymor.

Addysg a hyfforddiant

Gall myfyrwyr astudio ar ddwy lefel:

  1. Y Rhaglen Hyfforddi Ymarferwyr (PTP) i raddedigion
  2. Y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP) i raddedigion

PTP: gall myfyrwyr astudio unrhyw un o’r tair gradd gwyddor gofal iechyd hyn ym maes y gwyddorau ffisiolegol:

Prifysgol Abertawe

Trwy gwblhau’r graddau uchod yn llwyddiannus bydd modd i fyfyrwyr ymuno â chofrestr wirfoddol Cyngor Cofrestru Ffisiolegwyr Clinigol, ac ymarfer fel awdiolegydd, ffisiolegydd anadlol neu ffisiolegydd clinigol (ffisioleg gardiaidd neu niwroffisioleg).

STP: Gweler y manylion am gyfleoedd STP.

Dolenni defnyddiol: