Neidio i'r prif gynnwy

Peirianneg Glinigol a Ffiseg Feddygol

Mae staff gwyddor gofal iechyd yn y maes hwn yn defnyddio’u sgiliau i ddatblygu dulliau o fesur beth sy’n digwydd yn y corff, dod o hyd i ffyrdd newydd o roi diagnosis o afiechydon a’u trin, a sicrhau bod offer yn gweithio’n ddiogel ac yn effeithiol.

Maent yn cefnogi, datblygu a defnyddio technegau ffisegol fel uwchsain, ymbelydredd, pelydriad, delweddu cyseinedd magnetig, electromagnetedd a delweddu optegol er mwyn archwilio neu gofnodi sut mae’r corff yn gweithio, â’r nod o roi diagnosis a monitro a thrin cleifion. Gweler y manylion am yrfaoedd ym maes Peirianneg Glinigol a Ffiseg Feddygol.

Mae’r rhan fwyaf o staff gwyddor gofal iechyd sy’n gweithio ym maes Peirianneg Glinigol a Ffiseg Feddygol yn gweithio mewn ysbytai ac adrannau arbenigol. Mae rhai yn gweithio gyda chleifion yn eu cartrefi.

Addysg a Hyfforddiant

Gall myfyrwyr astudio ar ddwy lefel, ar y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr i israddedigion neu ar y Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr i raddedigion. Cliciwch ar y ddolen berthnasol am ragor o fanylion.

Gall myfyrwyr astudio ar ddwy lefel:

PTP: gall myfyrwyr astudio’r radd dair blynedd ganlynol:

Ar ôl cwblhau’r radd yn llwyddiannus,  bydd modd i raddedigion wneud cais i ymuno â’r corff rheoleiddio, sef y Sefydliad ar gyfer Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth, a gallant ymarfer wedyn fel technolegydd ffiseg feddygol.

STP: Gweler y manylion isod am gyfleoedd STP.

Dolenni defnyddiol: