Er mwyn sicrhau safonau rhagorol cyson yn yr addysg a ddarperir i raddedigion gan AaGIC, mae ein huned Mentrau Newydd yn ceisio datblygu a darparu nifer o fentrau addysg feddygol i helpu meddygon dan hyfforddiant yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a gwella diogelwch cleifion.
Dr Mark Stacey, Deon Cyswllt Mentrau Newydd, yw pennaeth yr uned hon sy’n rheoli portffolio o brosiectau sy’n diffinio ac yn cyfrannu i strategaeth AaGIC ar gyfer addysg feddygol a deintyddol i raddedigion ledled Cymru.
Mae’r uned yn goruchwylio pob agwedd ar y prosiectau o’r cam datblygu i’r cam cymeradwyo, er mwyn ymchwilio i’w dyluniad, asesu eu pwysigrwydd strategol, eu dichonoldeb a’u goblygiadau o ran adnoddau, a’u rhoi ar waith wedyn.
Yn ogystal ag ymchwilio i fentrau addysgol newydd, mae’r uned yn cydweithio’n agos â Llyfrgellydd GIG Cymru ar ddarparu mynediad ar gyfer meddygon dan hyfforddiant i E-lyfrgell GIG Cymru.