Fframwaith yw llywodraethu gwybodaeth sy’n dwyn ynghyd safonau cyfreithiol, moesegol ac ansoddol sy'n berthnasol i'r ffordd yr ymdrinnir â gwybodaeth; Mae'n berthnasol i bob math o wybodaeth. Ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn benodol, gwybodaeth bersonol am gynrychiolwyr, hyfforddeion, dysgwyr, defnyddwyr gwasanaeth a chyflogeion. Gelwir hyn yn Wybodaeth Bersonol Adnabyddadwy (WBA/PII).
Mae llywodraethu gwybodaeth yn cyd-fynd â llywodraethu corfforaethol ac mae'n canolbwyntio ar sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei thrin mewn modd cyfrinachol a diogel.
Yn y cyd-destun addysgol, mae'n ymwneud yn helaeth hefyd â chefnogi'r gwaith o weinyddu a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth gywir ar gael i'r bobl gywir, pryd a ble y mae ei hangen.
Ategir llywodraethu gwybodaeth gan bolisïau a gweithdrefnau penodol i roi sicrwydd i'r rhai sy'n cysylltu ag AaGIC fod sicrwydd a defnydd o wybodaeth yn cael ei reoli o fewn yr egwyddorion hyn.
I gael gwybod mwy neu i drafod unrhyw bryderon mewn perthynas â llywodraethu gwybodaeth, cysylltwch â:
Emma Garland
Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth (Dros-dro)
Ebost: heiw@wales.nhs.uk
Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) i rym ar 1 Ionawr 2005, ac mae'n adlewyrchu newid polisi cenedlaethol mewn gweinyddiaeth gyhoeddus o ddiwylliant o gyfrinachedd i un sy'n agored ac yn atebol. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hawl i'r cyhoedd yr hawl i gael mynediad gyffredinol i wybodaeth a ddelir gan unrhyw awdurdod cyhoeddus megis Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig penodol.
Os hoffech wneud cais am wybodaeth, yna gwnewch hynny naill ai:
Ebost: HEIW.foi@wales.nhs.uk
Ffôn: 03300 585 005
Neu'n ysgrifenedig i:
Swyddfa Rhyddid Gwybodaeth
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Tŷ Dysgu
Cefn Coed
Nantgarw
CF15 7QQ
Mae gennych hawl i ofyn am fformat y wybodaeth sy'n ofynnol.