Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthoedd ac ymddygiadau

Datblygwyd ein gwerthoedd a’n hymddygiad gennym ni, sef yr unigolion sydd wedi dod ynghyd i ffurfio AaGIC.

Maent yn cofnodi’n glir sut y byddwn yn ymddwyn; sut y byddwn yn trin eraill; sut y byddwn yn gweithio; a sut y byddwn yn cefnogi ein cydweithwyr ym maes gofal iechyd i sicrhau bod pobl Cymru yn cael gofal iechyd o’r radd flaenaf.

Maent hefyd yn cofnodi sut na fyddwn yn ymddwyn, a pha ymddygiad a fydd yn annerbyniol i ni. 

Parchu pawb: bob tro y byddwn yn dod i gysylltiad ag eraill

Byddwn yn:

  • gwrando’n astud – gwneud amser i wrando a chlywed syniadau pawb, ac ymateb iddynt
  • ceisio deall safbwyntiau gwahanol, a gweld pethau o safbwynt pobl eraill
  • herio mewn modd adeiladol a gwrthrychol, ac ymdrin ag anghydfod yn gyflym ac yn barchus, gan gynnal urddas pobl
  • parchu arbenigedd pobl eraill, ac ymddiried mewn pobl i gyflawni eu swyddi
  • cymryd cyfrifoldeb personol dros ein gweithredoedd, a magu hyder i gyfaddef pan fyddwn yn gwneud camgymeriadau ac ymddiheuro am hyn
  • trin pobl yn deg ac yn gyfiawn, yn unol â’u hanghenion
  • gwerthfawrogi pob gwahaniaeth, ac nid dim ond cefndiroedd, profiad, a sgiliau proffesiynol. 

Ni fyddwn yn:

  • caniatáu i heriau, neu wahaniaeth barn, fynd yn bersonol
  • ymddwyn mewn ffordd y gellid ei hystyried yn fwlio
  • eithrio eraill
  • ymddwyn mewn ffordd y gellid ei hystyried yn niweidiol
  • dangos ffafriaeth
  • tra-arglwyddiaethu ar drafodaethau neu ddulliau gweithredu 
  • goddef hiliaeth neu unrhyw fath arall o wahaniaethu.

Gyda’n gilydd fel tîm: byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr, ar draws GIG Cymru, a chyda sefydliadau partner eraill

Byddwn yn:

  • ceisio canfod, cydnabod, a gwerthfawrogi’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd gan eraill o fewn AaGIC ac ar draws ein holl randdeiliaid
  • croesawu cyfraniadau gan gydweithwyr a phartneriaid
  • gweithio’n galed dros ein gilydd, rhoi o’n gorau p’un a ydym yn arwain neu’n cefnogi gwaith;
  • cydweithio  
  • agored a thryloyw, gan weithio tuag at amcanion cyffredin
  • cael hwyl.

Ni fyddwn yn:

  • cadw gwybodaeth berthnasol yn ôl
  • anghofio cyfathrebu â’n gilydd
  • dangos diffyg teyrngarwch tuag at ein gilydd ac AaGIC
  • gweithio’n gaeth ar sail ffiniau diffiniedig. 

Syniadau sy’n arwain at welliant: manteisio ar greadigrwydd gan arloesi, gwerthuso a gwella’n barhaus

Byddwn yn:

  • craedigol, chwilfrydig, a blaengar;
  • herio’r status quo, ac awgrymu atebion adeiladol
  • mabwysiadu dull cadarnhaol o ymdrin â heriau a phroblemau
  • hyrwyddo dulliau arloesi a gwella hyddysg i gleifion, staff, a dysgwyr
  • grymuso staff, timau, a phartneriaid drwy roi’r sgiliau iddynt wella
  • ceisio, ac ymateb i, adborth gan gleifion, dysgwyr, staff, a phartneriaid
  • trafod a dathlu llwyddiant
  • wynebu ein camgymeriadau, a dysgu ohonynt
  • canolbwyntio ar "pam" -  y pwrpas, a’r canlyniad
  • creu ac amddiffyn amser a lle i fyfyrio a gwerthuso. 

Ni fyddwn yn:

  • ymddwyn mewn ffordd negyddol neu “methu gwneud”
  • bod yn amddiffynnol wrth herio ffyrdd presennol o weithio
  • meddwl mai ni sy’n gwybod orau 
  • caniatáu i rwystrau atal gwelliannau
  • beio eraill am gamgymeriadau.