Gweledigaeth:
Trawsnewid y gweithlu i greu Cymru iachach
Mae rôl y gweithlu yn hanfodol wrth ddatblygu ffordd gynaliadwy o ddarparu gofal iechyd i bobl Cymru yn y dyfodol. Felly, byddwn yn gweithio’n agos gyda’n rhanddeiliaid i werthuso, ailystyried, ac ailddyfeisio sut y mae angen i ni weithio i ddiwallu anghenion byd sy’n newid yn barhaus.
Pwrpas:
Ein pwrpas yw integreiddio a meithrin arbenigedd a gallu wrth gynllunio, datblygu, llunio, a chefnogi’r gweithlu gofal iechyd. Sicrhau bod gennym y staff cywir, gyda’r sgiliau cywir, i ddarparu iechyd a gofal o’r radd flaenaf i bobl Cymru.
Byddwn yn gwneud hyn yn unol â’r egwyddorion PEOPLE canlynol, sy’n egluro beth rydym ni, sef y gweithlu sy’n ffurfio AaGIC, yn teimlo sy’n bwysig, ac hefyd yn adlewyrchu beth mae ein partneriaid a’n rhanddeiliaid wedi dweud wrthym:
- P (Planning) – Blaengynllunio i ragfynegi a chroesawu newidiadau, a datblygu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy;
- E (Education) – Addysgu, hyfforddi, a datblygu staff i ddiwallu anghenion cleifion a dinasyddion, yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus;
- O (Opportunities) – Cynnig cyfleoedd i ddatblygu staff newydd a chyfredol o’r holl grwpiau proffesiynol a galwedigaethol drwy gydol llwybrau gyrfa;
- P (Partnerships) – Gweithio mewn partneriaeth i gynyddu gwerth i’n dinasyddion, cleifion, dysgwyr, a staff;
- L (Leading) – Arwain y ffordd, drwy ddysgu, gwella, ac arloesi parhaus;
- E (Exciting) – Cyffroi, Tanio Brwdfrydedd, Ymgysylltu, Galluogi, a Grymuso staff ar draws yr holl grwpiau proffesiynol a galwedigaethol.