Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Yn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o fuddsoddiad mewn addysg i weithwyr iechyd proffesiynol a datblygu’r gweithlu.

Yn sgil yr adolygiad hwn, dan arweiniad Mel Evans, cyhoeddwyd adroddiad yn 2015, a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion - un o’r rheini oedd sefydlu un corff i gomisiynu, cynllunio, a datblygu addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithlu’r GIG yng Nghymru.

Yna, cynhaliwyd gwaith pellach gan Yr Athro Robin Williams i ystyried cynigion manwl ar gyfer y corff sengl newydd. Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Yr Athro Williams, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai’r sefydliad newydd yn dod i fodolaeth ym mis Hydref 2018.

Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig manwl gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym mis Gorffennaf 2017, gan amlinellu statws, swyddogaethau ac enw’r corff newydd: Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Ar 1 Hydref 2018, sefydlodd Llywodraeth Cymru AaGIC, drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd ynghyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg Gweithlu a Datblygu (GAGD) GIG Cymru; a Chanolfan Cymru Addysg Fferylliaeth Broffesiynol (WCPPE). 

Drwy uno’r sefydliadau hyn, mae AaGIC yn sicrhau bod pobl a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru yn elwa ar ddull gweithredu cydlynol a chyson ar addysg a hyfforddiant, a moderneiddio, a chynllunio’r gweithlu. Yn ogystal, maent yn elwa ar y sgiliau, y wybodaeth, a’r arbenigedd gwell a ddarperir gan sefydliad cyfunol o’r fath.