Neidio i'r prif gynnwy

Ein Nodau ac Amcanion Strategol

Mae ein nodau a'n hamcanion strategol wedi'u symleiddio i sicrhau eu bod yn egluro ein rôl, ein cyfraniad unigryw a'n gwerth ychwanegol o fewn system ehangach y GIG. 

Nod Strategol 1

Adeiladu Gweithlu'r Dyfodol: Datblygu a gweithredu cynlluniau sy'n alinio galw'r gweithlu yn y dyfodol â chyflenwad. 

Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn hyfforddi'r gweithlu newydd, darparu addysg amlddisgyblaethol, a hyfforddiant yn ogystal â chynlluniau gweithlu strategol a gwella atyniad a recriwtio i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Nod Strategol 2

Datblygu ein Gweithlu Presennol: Trawsnewid gweithlu heddiw i gyfrannu at fodelau gofal newydd sy'n gwella ansawdd a diogelwch.

Nod Strategol 3

Diwylliant ac arweinyddiaeth yn GIG Cymru: Ymgorffori egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol i ddatblygu diwylliannau sy'n cefnogi cynhwysiant, lles ac ansawdd.

Mae llunio diwylliant ac arweinyddiaeth yn golygu ymgorffori egwyddorion arweinyddiaeth tosturiol i ddatblygu diwylliannau sy'n cefnogi cynhwysiant, lles ac ansawdd.

Ein 11 amcan strategol
  1. Buddsoddi mewn cyflenwad addysg a hyfforddiant domestig i ymateb i anghenion iechyd a gofal.
  2. Trawsnewid addysg a hyfforddiant amlddisgyblaethol i ddiwallu anghenion y dyfodol.
  3. Datblygu, cyhoeddi a gweithredu cynlluniau gweithlu strategol mewn meysydd blaenoriaeth.
  4. Gwella atyniad a recriwtio i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
  5. Datblygu atebion i'r gweithlu ar gyfer Rhaglenni a Blaenoriaethau Cenedlaethol y GIG
  6. Dylunio a datblygu adnoddau i gefnogi'r gweithlu a thrawsnewid gwasanaethau.
  7. Targedu datblygiad sgiliau a galluoedd i gefnogi trawsnewid a diogelu staff presennol yn y dyfodol.
  8. Cynyddu a lledaenu cyfleoedd arweinyddiaeth dosturiol a chyfunol ar gyfer arweinwyr ar bob lefel ledled GIG Cymru.
  9. Creu piblinellau amrywiol ac amlbroffesiynol o ddarpar arweinwyr ar gyfer GIG Cymru.
  10. Dylanwadu ar ddiwylliannau sy'n hyrwyddo cadw staff, lles staff, gwell ymgysylltiad a gweithio mewn tîm effeithiol o fewn GIG Cymru.
  11. Sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o bopeth a ddarparwn.