Mae deg Rhaglen Nyrsio Gymunedol ar gyfer nyrsys (a bydwragedd i SCPHN) sy'n dymuno gweithio mewn maes cymunedol arbenigol neu wella eu gwybodaeth a'u sgiliau:
Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN)
Mae SCHPN yn gymhwyster ôl-raddedig ar gyfer nyrsys a bydwragedd sy'n cynnwys y rhaglenni canlynol:
Cymhwyster Ymarfer Arbenigol (SPQ)
Mae SPQ yn gymhwyster ôl-raddedig ar gyfer nyrsys sy'n cynnwys y rhaglenni canlynol:
Gall y rhaglenni ôl-gofrestru hyn fod yn benodol i'ch maes gwaith presennol neu gellir eu cyflawni os ydych yn dymuno newid eich rôl.
Safonau proffesiynol
Cyhoeddodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth safonau ar gyfer y rhaglenni hyn.
Sut i wneud cais
I gael gwybod mwy am y cymwysterau hyn gallwch siarad â'ch rheolwr neu chwilio'r rhaglenni hyn ar-lein a dod o hyd i'r prifysgolion sy'n eu cynnig.
Os nad ydych eisoes yn gweithio yn y gymuned, gallwch gysylltu â'ch rheolwyr cymuned leol i drafod eich diddordeb. Efallai y byddant yn gallu eich cefnogi i gysgodi aelod o staff sy'n gweithio yn y maes hwnnw (yn amodol ar wiriadau lleol).
Ymglymiad AaGIC
Mae gennym gytundebau gyda sawl prifysgol i sicrhau bod y rhaglenni hyn ar gael ledled Cymru. Bydd pobl sy'n astudio'r rhaglenni hyn hefyd yn cael eu hariannu gennym ni.
Dogfennau Asesu Ymarfer
Byddwch yn ymwybodol: ni ddylech olygu na newid y dogfennau hyn.
1. Dogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer Rhaglenni Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN) (Safonau NMC 2022)
2. Dogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer Rhaglenni Cymhwyster Ymarfer Arbenigol Nyrsio Cymunedol (SPQ) (Safonau NMC 2022)
3. Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Myfyrwyr SCPHN a SPQ, Goruchwylwyr Ymarfer, Aseswyr Ymarfer ac Aseswyr Academaidd
4. Gweminar Safonau NMC SCPHN a SPQ AaGIC Chwefror 2025