Neidio i'r prif gynnwy

Her 8 - Senario Sy'n Seiliedig Ar Ymarfer

Croeso i Her 8. 

Ar gyfer y senario terfynol sy'n seiliedig ar ymarfer, rydym yn archwilio stigma a'r effaith y gall hyn ei chael ar unigolion. Stigma yw anghymeradwyo, neu wahaniaethu yn erbyn, person neu grŵp o bobl.

Mae hyn yn aml yn seiliedig ar nodweddion cymdeithasol amlwg sy'n gwahaniaethu'r unigolyn neu'r grŵp oddi wrth aelodau eraill o gymdeithas. Mae ein gweithredoedd, ein canfyddiadau a'n geiriau yn creu stigma. Gall stigmateiddio credoau ac agweddau gael effaith ddinistriol ar allu rhywun i gael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

 

 

Gwyliwch y fideo hwn ac yna cymerwch ychydig o amser i fyfyrio ar ymarfer eich hun ac unrhyw anghenion dysgu a nodwyd.

Er bod y senario hwn yn ymwneud â fferylliaeth gymunedol, gellir defnyddio'r dysgu ar draws pob sector ymarfer.

 

Cwestiynau i gefnogi myfyrio:
  1. Sut wnaeth y senario hwn wneud i chi deimlo?
  2. Beth ddysgoch chi?
  3. Sut byddwch chi'n gweithredu'r dysgu hwn yn eich ymarfer?
  4. Ydych chi wedi nodi unrhyw anghenion dysgu ychwanegol?
  5. A oes unrhyw beth y gallech ei wneud yn eich ymarfer i gefnogi'r rhai sy'n defnyddio sylweddau'n broblemus yn well?

Dylai pobl sy'n defnyddio sylweddau'n broblemus gael yr un driniaeth a chymorth â'r rhai sydd ag unrhyw gyflwr iechyd arall. I gael gwybod mwy am sut y gallwch ddechrau chwalu'r stigma a wynebir gan y rhai sy'n gaeth i gyffuriau, edrychwch ar Ymgyrch Cynghrair Darparwyr Cymorth Dibyniaeth y GIG.