Neidio i'r prif gynnwy

Her 5 - Ymunwch â chyfarfod RPS ABCD

Ar gyfer y bumped her rydym yn eich annog i ymuno â grŵp Royal Pharmaceutical Society (RPS) Action in Belonging, Culture and Diversity (ABCD).

Gall unrhyw un sy’n gweithio mewn fferylliaeth ymuno â’r grŵp ABCD, p’un ai ydych yn aelod o’r RPS ai peidio. Mae’r grŵp yn cydnabod pwysigrwydd gwella cynhwysiant ar draws fferylliaeth fel bod pawb yn teimlo y gallant ddod â’i hunan cyflawn i’r gwaith.

Mae’r grŵp ABCD yn cyfarfod bob 2 fis trwy Zoom i gefnogi datblygiad rhwydweithiau ar draws y proffesiwn, i drafod syniadau, ac i alluogi newid.

Mae’r cyfarfod nesaf i’w gynnal yfory: Dydd Mercher 27 Ebrill 7:00pm-8:30pm.

Bydd angen i chi ymuno â'r grŵp ABCD er mwyn mynychu'r cyfarfod. 

Byddai'n wych eich gweld chi yno.