Neidio i'r prif gynnwy

Her 1 - Offeryn hunan-fyfyrio cyflawn

Croeso i Her 1. I gychwyn yr ymgyrch hon, hoffem eich annog i fyfyrio ar eich cymhwysedd diwylliannol eich hun, i nodi eich cryfderau ac unrhyw feysydd i'w datblygu.

 

Cwblhewch CPPE-offeryn hunan fyfyrio mor onest ag y gallwch.

 

 

Hoffem i chi ystyried pa mor hyderus ydych chi’n teimlo i fod yn agored ac anfeirniadol, i ofyn cwestiynau’n sensitif pan nad ydych efallai’n deall neu’n gwybod am gredöau, anghenion, gwerthoedd neu bryderon person, er mwyn ymateb yn sensitif, a dangos urddas a pharch.

Mae cymhwysedd diwylliannol yn sgil, ac fel unrhyw sgil, caiff ei ddysgu a'i ddatblygu dros amser. Gall ein hagweddau personol, ein profiadau bywyd, ein rhyngweithiadau, a'n cefndir oll ddylanwadu, neu roi gogwydd i ein hyder,a’n credöau o ymwneud â phobl. Dylid ei ystyried yn daith gydol oes i ddatblygu cymhwysedd diwylliannol. Ni fydd  yr atebion cywir gennym bob tro, na’r wybodaeth gyfan, na’r arbenigedd ym mhob agwedd ar ddiwylliant neu gredöau crefyddol. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn ymdrechu i wella a cheisio gwell dealltwriaeth i ddiwallu anghenion pawb yn ein gofal.

Nid yw'r offeryn hwn yn brawf; fe'i cynlluniwyd i'ch helpu i nodi eich cryfderau ac unrhyw feysydd i'w datblygu yn eich cymhwysedd diwylliannol eich hun. Mae datblygu eich cymhwysedd diwylliannol yn daith ac mae pa mor bell rydych chi'n symud ymlaen ar y daith yn bwysicach na'ch man cychwyn. Byddwn yn ailedrych ar yr offeryn hunanfyfyrio eto ar ddiwedd yr ymgyrch er mwyn i chi weld pa mor bell rydych wedi symud ymlaen.

Yn ystod yr ymgyrch hon, wrth i chi ddod yn fwyfwy ymwybodol o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddiwylliannol gymwys, efallai y byddwch yn dechrau cwestiynu gwerthoedd a chredöau yr ydych yn ymwybodol neu'n anymwybodol wedi eu credu ers blynyddoedd.

Gall hyn fod yn heriol ac yn peri gofid. Sicrhewch fod gennych rywun y gallwch siarad ag ef/hi os oes gennych unrhyw bryderon, neu cysylltwch â Cefogaeth Fferylliaeth  am gyngor.

Fel arall, gall holl staff y GIG yng Nghymru gysylltu ag Iechyd i Weithwyr Proffesiynol yng Nghymru am hunangymorth ychwanegol, cymorth gan gymheiriaid, neu therapïau rhithwir wyneb yn wyneb.