Neidio i'r prif gynnwy

Her 6 - Fflach-ffeithiau Fferylliaeth/ Blogiau

Croeso i Her 6. Dewiswch un o’r gweithgareddau canlynol, neu’r ddwy ohonynt, ar gyfer yr her nesaf hon:

 

1. Fflach-ffeithiau Fferylliaeth

Atebwch y 5 cwestiwn canlynol i brofi’ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ofal diwylliannol gymwys sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Datblygwyd y cwestiynau hyn yn sgil e-her CPPE.

2. Blogiau

Darllenwch ddetholiad o Flogiau RPS sy'n amlygu enghreifftiau o weithgareddau y mae rhai gweithwyr fferyllol proffesiynol wedi ymgymryd â hwy i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth ac arferion cynhwysol ym maes fferylliaeth. Mae rhai blogiau rydym yn eu hargymell yn cynnwys:

  • Cefnogi derbyniadau’r brechlyn mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig
  • Trin cleifion yn y gymuned sydd â feirysau a gludir yn y gwaed
  • Darparu gofal o'r ansawdd gorau i gleifion trawsryweddol
  • Annog a hybu cydraddoldeb i fenywod mewn fferylliaeth
  • Ymgysylltu â'r genhedlaeth nesaf o fferyllwyr du
Cwestiynau i gefnogi myfyrdod:
  1. Beth ydych chi wedi'i ddysgu?
  2. A ydych wedi canfod unrhyw enghreifftiau o arferion cynhwysol y gallwch eu dwyn ymlaen i’ch ymarfer eich hun?
  3. Ydych chi wedi canfod/nodi unrhyw anghenion dysgu?