Neidio i'r prif gynnwy

Orthodonteg

Group of dentists

Orthodonteg yw datblygu, atal a chywiro afreoleidd-dra’r dannedd, y brath a’r ên.

Unwaith y bydd gennych o leiaf ddwy flynedd o gymhwyster ôl-sylfaenol a'ch bod wedi eich cofrestru'n llawn gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC), gallwch wneud cais i hyfforddi ym maes arbenigol orthodonteg.

Mae'r cyrsiau'n para tair blynedd (neu'r cwrs rhan-amser cyfatebol) ac maent yn cynnwys hyfforddiant clinigol (mewn ysbyty) ochr yn ochr ag astudiaeth academaidd (yn y brifysgol). Ar ôl tair blynedd, byddwch yn sefyll yr arholiad ar gyfer yr Aelodaeth ym maes Orthodonteg (MOrth) ac, os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn ennill Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol (CCST). Bydd hyn yn caniatáu i chi wneud cais i’r CDC i gael eich cynnwys ar y rhestr arbenigol a’ch galw’n Arbenigwr mewn Orthodonteg. Mae’n ofynnol hefyd i hyfforddeion astudio ar gyfer gradd uwch, megis yr MSc, yn ystod eu hyfforddiant. Fel arfer byddwch yn derbyn cyflog yn ystod eich hyfforddiant, er y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd dysgu. Rhaglen wedi’i chymeradwyo gan Ddeoniaeth Ddeintyddol i Ôl-raddedigion yw hon ac mae’n cael ei hategu gan Rif Hyfforddiant Cenedlaethol (NTN) ac mae’n arwain at CST.

Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i arfogi’r hyfforddai â’r sgiliau angenrheidiol i ymarfer fel Ymgynghorydd mewn Orthodonteg. Diffinnir y rhain yn y cwricwlwm a ragnodir gan y CDC: Cwricwla arbenigol

Beth yw orthodonteg?

Sylwch fod Deoniaeth Cymru yn awr yn cymryd rhan yn y broses recriwtio genedlaethol ar gyfer StR ym maes Orthodonteg. 

Mae’r arbenigedd deintyddol hwn yn defnyddio system ISCP. Cliciwch y ddolen isod i fewngofnodi:
www.iscp.ac.uk

Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a Chadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol – Mr Graham Oliver, Orthodontydd Ymgynghorol ac Uwch Ddarlithydd Anrhydeddus, Ysbyty Deintyddol Athrofaol Caerdydd

Rheolwr Hyfforddiant Arbenigol  - Lucinda Isherwood