Beth yw orthodonteg?
Orthodonteg yw datblygu, atal a chywiro afreoleidd-dra’r dannedd, y brath a’r ên.
Beth mae Orthodeintyddion yn ei wneud?
Dylai hyfforddeion sy’n cwblhau’r rhaglen hon allu:
- Dadansoddi anghysondebau’r dannedd.
- Canfod gwyriadau yn natblygiad y dannedd, twf yr wyneb ac annormaleddau gweithredol.
- Llunio cynllun triniaeth a rhagweld ei gwrs.
- Cyflawni mesurau gwrthweithio orthodontig.
- Ymgymryd â thriniaethau syml a chymhleth.
- Deall y dull amlddisgyblaethol ar gyfer trin cleifion sydd mewn perygl (oedolion), achosion llawfeddygol orthodontig a chleifion sydd â thaflod hollt.
- Gwerthuso’r angen am driniaeth orthodontig.
- Deall agweddau seicolegol sy’n berthnasol i orthodonteg.
- Datblygu agwedd wyddonol meddwl ymchwilgar a symbylu chwilfrydedd proffesiynol.
- Hyfforddiant cyn ymgeisio mewn methodoleg wyddonol.
- Gallu dehongli llenyddiaeth.
- Ymgymryd â gweithgareddau ymchwil.
- Paratoi cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig o ganfyddiadau clinigol ac ymchwil.
Pa sgiliau ddylwn i feddu arnynt cyn gwneud cais i Raglen Hyfforddiant Arbenigol mewn Orthodonteg?
Er mwyn cael eich derbyn ar raglen hyfforddi orthodontig fel cofrestrydd arbenigol:
- Bydd angen i chi gael profiad eang ym maes deintyddiaeth yn gyffredinol – mewn ysbyty, yn y gymuned ac mewn practis deintyddol cyffredinol. Bydd cwblhau cynllun hyfforddiant galwedigaethol (DF1) (blwyddyn) a chynllun Hyfforddiant Meddygon Teulu (DF2) (blwyddyn) yn eich helpu i ennill rhywfaint o'r profiad angenrheidiol. Byddwch yn cael eich Rhif VT yn ystod y cyfnod hwn, a bydd ei angen arnoch os ydych yn dymuno gweithio yn y pen draw yn y gwasanaethau gofal sylfaenol.
- Fe’ch cynghorir i astudio ar gyfer yr arholiad MJDF/MFS/MFD, y gellir ei sefyll o fewn dwy flynedd i’r cymhwyster sylfaenol. Nid yw hyn yn hanfodol mwyach er mwyn cael hyfforddiant arbenigol ond bydd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr yn meddu ar aelodaeth o’r fath
- Dylech geisio cyhoeddi un neu ddwy o erthyglau mewn cylchgrawn deintyddol da, cynnal rhai prosiectau archwilio a’u cyflwyno mewn cyfarfodydd. Bydd y mathau hyn o weithgareddau yn helpu wrth wneud cais am swydd hyfforddi arbenigol.
Beth sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Hyfforddi Orthodonteg?
Unwaith y bydd gennych o leiaf ddwy flynedd o gymhwyster ôl-sylfaenol a’ch bod wedi cofrestru’n llawn gyda’r CDC, gallwch wneud cais i hyfforddi ym maes arbenigol Orthodonteg..
Mae'r cyrsiau'n para tair blynedd (neu'r cwrs rhan-amser cyfatebol) ac maent yn cynnwys hyfforddiant clinigol (mewn ysbyty) ochr yn ochr ag astudiaeth academaidd (yn y brifysgol). Ar ôl tair blynedd, byddwch yn sefyll yr arholiad ar gyfer yr Aelodaeth ym maes Orthodonteg (MOrth) ac, os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn ennill Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol (CCST). Bydd hyn yn caniatáu i chi wneud cais i’r CDC i gael eich cynnwys ar y rhestr arbenigol a’ch galw’n Arbenigwr mewn Orthodonteg. Mae’n ofynnol hefyd i hyfforddeion astudio ar gyfer gradd uwch, megis yr MSc neu DDS, yn ystod eu hyfforddiant. Fel arfer byddwch yn derbyn cyflog yn ystod eich hyfforddiant, er y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd dysgu. Nid yw rhai swyddi’n cael eu hariannu (i.e. ni fyddwch yn cael eich talu).
Ar ôl cwblhau Hyfforddiant Arbenigedd, beth yw fy opsiynau gyrfa?
- Mynd i bractis arbenigol, fel perfformiwr fel arfer (arferid cyfeirio at hyn fel statws cysylltiol ). Yn y pen draw, efallai y byddwch yn dod yn bartner neu’n berchen ar eich practis eich hun. Gallwch weithio dan gontract GIG mewn gofal deintyddol sylfaenol neu ymgymryd â thriniaeth yn breifat
- Dod yn arbenigwr cyflogedig yn y gymuned neu wasanaeth deintyddol ysbyty
- Hyfforddi am ddwy flynedd arall mewn ysbyty, sefyll arholiad FDS (Orth) a gwneud cais i fod yn ymgynghorydd ysbyty
- Ar y cyd â hyfforddiant ymgynghorwyr, gallwch hyfforddi am dair i bedair blynedd mewn ysbyty/prifysgol, ennill gradd PhD/addysgu efallai a dilyn gyrfa yn y brifysgol. Yn y pen draw, gallech ddod yn Athro mewn Orthodonteg.
Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi
Sarah Merrett – Ymgynghorydd Orthodonteg Ysbyty Deintyddol Prifysgol Caerdydd
Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigedd
Jeremy Knox – Ysbyty Treforys, Abertawe
Gweinyddwr Hyfforddiant Arbenigedd
Gabby Boyland – Adran Ddeintyddol i Ôl-raddedigion, Deoniaeth Cymru
Rhagor o wybodaeth
Mae gwybodaeth ddefnyddiol am hyfforddiant proffesiynol cyffredinol a hyfforddiant orthodonteg ar gael ar wefan y Royal College of Surgeons of England website.
P.E.Ellis, S.G.S.Ellis, K.D.O’Brien a R.I.Joshi. Felly rydych chi eisiau bod yn gofrestrydd arbenigol?- Beth i’w gynnwys yn eich CV. BDJ 2002;192:133-136.
Gwybodaeth a gafwyd o