Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddiaeth adferol

Line up of dentists

Mae Deintyddiaeth Adferol yn delio ag atal, trin ac adfer meinweoedd afiach, wedi’u hanafu, neu feinweoedd deintyddol meddal a chaled annormal er mwyn iddynt weithredu’n normal. Mae Deintyddiaeth Adferol yn cynnwys pob agwedd ar Endodonteg, Periodontneg a Prostodonteg.

Mae’r hyfforddiant sy’n arwain at Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol mewn Deintyddiaeth Adferol yn bum mlynedd ac mae’n cynnwys cwricwla sy’n cwmpasu’r tri arbenigedd adferol, ynghyd â nifer o bynciau eraill sy’n ymwneud yn fwy penodol â darparu gwasanaeth cynhwysfawr mewn Deintyddiaeth Adferol yn yr ysbyty. Mae chwe deg y cant o’r hyfforddiant yn glinigol, pump ar hugain yn academaidd a phymtheg y cant yn ymchwil. Tua diwedd y cyfnod hyfforddi, bydd yr hyfforddeion yn cwblhau’r Arholiad Arbenigol Rhyng-golegol mewn Deintyddiaeth Adferol a bydd llwyddo yn yr arholiad hwn yn arwain at ddyfarnu FDS (Deintyddiaeth Adfero)l. Mae’r hyfforddiant arbenigol hwn yn rhaglen sydd wedi’i chymeradwyo gan y Ddeoniaeth Ôl-raddedigion ym maes Deintyddiaeth, ac mae’n cael ei hategu gan Rif Hyfforddiant Cenedlaethol (NTN) ac mae’n arwain at CCST.

Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i arfogi’r hyfforddai â’r sgiliau angenrheidiol i ymarfer fel Ymgynghorydd mewn Deintyddiaeth Adferol. Diffinnir y rhain yn y cwricwlwm a ragnodir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC): Cwricwla arbenigol

Mae’r arbenigedd deintyddol hwn yn defnyddio’r system ISCP.

Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a Chadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol – Mr Liam Addy, Ymgynghorydd mewn Deintyddiaeth Bediatrig, Ysbyty Deintyddol Athrofaol, Caerdydd

Rheolwr Hyfforddiant Arbenigol – Lucinda Isherwood