Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw deintyddiaeth adferol?

Dental prosthesis

Beth yw deintyddiaeth adferol?

Datblygodd Deintyddiaeth Adferol fel arbenigedd deintyddol cydnabyddedig ym 1973 ac mae’n cynnwys maes arbenigedd eang ei seiliau ar adfer dannedd a meinweoedd geneuol.

Dros y 35 mlynedd diwethaf, mae’r arbenigedd wedi gweld newidiadau sylweddol o ganlyniad i newidiadau mewn demograffeg y boblogaeth, gan gynnwys cynnydd mewn disgwyliad oes a mwy o ymwybyddiaeth o gleifion a chynnal iechyd y geg a’r dannedd, gyda’r dymuniad i gadw dannedd naturiol am gyfnod hirach.

Mae Deintyddiaeth Adferol yn cynnwys ymarfer clinigol, addysgu ac ymchwil i ofal iechyd geneuol cynhwysfawr a therapiwtig ar gyfer cleifion o bob grŵp oedran, gan gynnwys y rheini sy’n dangos problemau meddygol, corfforol, deallusol, seicolegol a/neu emosiynol. Mae’n cynnwys adfer ac ailsefydlu’r meinweoedd yn y geg a’r meinweoedd deintyddol a gollwyd o ganlyniad i afiechyd, etifeddiaeth a thrawma er mwyn diwallu anghenion esthetig, seicolegol a swyddogaethol y claf, sy’n aml yn galw am gydlynu timau aml-broffesiwn oddi mewn ac allan i ddeintyddiaeth.

Beth mae Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol Adferol yn ei wneud?

Mae ymgynghorwyr / arbenigwyr yn rhoi cyngor ar gynllunio triniaeth ac yn cyfrannu at reoli a thrin achosion anodd sy’n ymwneud â phob agwedd ar Ddeintyddiaeth Adferol. Mae Deintyddiaeth Adferol yn cynnwys pob agwedd ar Beriodonteg, Endodonteg a Phrostodonteg Sefydlog a Symudol, yn cynnwys Prostodonteg Eneuol-wynebol a Deintyddiaeth Mewnblaniadau. Mae ganddynt rôl bwysig yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o gofrestryddion arbenigol a’r rheini sy’n hyfforddi ar gyfer cydnabyddiaeth arbenigol yn y momo-arbenigeddau, sef Endodonteg, Periodonteg a Phrostodonteg. Byddant yn darparu’r hyfforddiant hwn mewn ysgolion deintyddol ac ysbytai cyffredinol dosbarth lle mae’r amgylchedd yn ddelfrydol ar gyfer darparu’r hyfforddiant. Gellir treulio rhan o’r hyfforddiant mewn practis arbenigol achrededig. Mae’r arbenigwyr hyn, naill ai mewn swyddi er anrhydedd neu swyddi ymgynghorol y GIG, yn cyfrannu’n helaeth at addysg israddedig ac ôl-raddedig, ymchwil ac at gynnal safonau uchel mewn rhaglenni clinigol ac academaidd. Maent hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at ddarparu addysg barhaus i ymarferwyr deintyddol cyffredinol, hyfforddeion galwedigaethol a sylfaenol a deintyddion cymunedol. Fel arfer, mae gan ymgynghorwyr ac arbenigwyr academaidd rôl bwysig o ran arwain ymchwil glinigol yn lleol ac yn genedlaethol. Mae nifer o ymgynghorwyr y GIG hefyd yn ymwneud ag ymchwil glinigol.

Pa sgiliau ddylwn i feddu arnynt cyn gwneud cais am Raglen Hyfforddiant Arbenigol ym maes Deintyddiaeth Adferol?

Rhaid i’r rheini sy’n dymuno cofrestru ar gyfer rhaglen fod wedi cwblhau dwy flynedd o Hyfforddiant Proffesiynol Cyffredinol a llwyddo i gael lle hyfforddi drwy fynediad cystadleuol.

Mae’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen yn cynnwys:

  • sgiliau amlwg mewn deintyddiaeth glinigol gyda chefndir a phrofiad clinigol eang
  • sgiliau rhyngbersonol da
  • gallu gweithio mewn tîm.
  • sgiliau cyfathrebu da
  • sgiliau addysgu.

Beth sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Hyfforddiant Arbenigol ym maes Deintyddiaeth Adferol?

Mae’r hyfforddiant sy’n arwain at Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol mewn Deintyddiaeth Adferol yn bum mlynedd ac mae’n cynnwys cwricwla sy’n cwmpasu’r tri arbenigedd adferol, ynghyd â nifer o bynciau eraill sy’n ymwneud yn fwy penodol â darparu gwasanaeth cynhwysfawr mewn Deintyddiaeth Adferol yn yr ysbyty. Mae chwe deg y cant o’r hyfforddiant yn glinigol, pump ar hugain yn academaidd a phymtheg y cant yn ymchwil. Tua diwedd y cyfnod hyfforddi, bydd yr hyfforddai’n cwblhau’r Arholiad Arbenigol Rhyng-golegol mewn Deintyddiaeth Adferol gyda llwyddiant a fydd yn arwain at ddyfarnu’r FDS (Deintyddiaeth Adferol). Rhaid cwblhau asesiadau ffurfiannol boddhaol cyn y gellir argymell yr hyfforddai ar gyfer CCST.

Bydd y rhan fwyaf o arbenigwyr mewn Deintyddiaeth Adferol yn ymarfer fel Ymgynghorwyr mewn Deintyddiaeth Adferol Anrhydeddus neu yn y GIG . Fel arfer, bydd yr ymgynghorwyr mygedol yn uwch-raddedigion Academaidd mewn ysgolion deintyddol sy’n gyfrifol am addysgu ac ymchwil y bydd yn rhaid iddynt fod wedi ymgymryd â chymwysterau academaidd ychwanegol ar eu cyfer fel rhan o’u rhaglen hyfforddiant StR y cytunwyd arni gyda’r SAC mewn Deintyddiaeth Adferol.

Ar ôl cwblhau Hyfforddiant Arbenigedd, beth yw fy opsiynau gyrfa?

Bydd yr ymgynghorwyr/arbenigwyr hyn mewn Deintyddiaeth Adferol yn dal yn bennaf

Swyddi ymgynghorol, y rhan fwyaf wedi’u lleoli mewn ysgolion deintyddol, a nifer cynyddol yn y GIG

Ymgynghorwyr mewn unedau ysbytai rhanbarthol. Yr ymgynghorwyr anrhydeddus hynny mewn ysgolion deintyddol sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu addysg israddedig, dysgu ôl-raddedig a hyfforddi arbenigwyr ar gyfer y dyfodol. Bydd ysbytai cyffredinol dosbarth hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran hyfforddi a chydlynu’r gwasanaeth arbenigol ar gyfer cleifion anodd / dan fygythiad ar y cyd â’u cydweithwyr ym maes gofal eilaidd ac ymarfer deintyddol cyffredinol a chymunedol arbenigol.

Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi

Liam Addy – Ymgynghorydd mewn Deintyddiaeth Adferol, Ysbyty Deintyddol Prifysgol Caerdydd

AddyLD@cardiff.ac.uk

Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigedd

James Owens – Ymgynghorydd mewn Deintyddiaeth Adferol Ysbyty Treforys Abertawe

James.owens@wales.nhs.uk

Gweinyddwr Hyfforddiant Arbenigedd

Gabby Boyland – Adran Ddeintyddol i Ôl-raddedigion, Deoniaeth Cymru

boylandg@cardiff.ac.uk

Ble mae cael rhagor o wybodaeth?

http://www.rcseng.ac.uk/publications/docs/specialisation_dental.html

http://www.gdc-uk.org/Membersofpublic/Lookforaspecialist/Pages/default.aspx

http://www.restdent.org.uk/index.html