Mae'r broses ymgeisio ar gyfer Medi 2025 bellach ar agor
Mae'r rhaglen hon yn dechrau bob mis Medi ac yn cwmpasu Cymru gyfan. Mae’n rhoi cyflwyniad strwythuredig i weithio mewn practis deintyddol cyffredinol y GIG ar gyfer therapyddion deintyddol sydd newydd gymhwyso. Prif elfennau’r rhaglen yw (a) gweithio mewn amgylchedd gwarchodedig o fewn practis cymeradwy, sydd wedi’i ddewis i ddarparu hyfforddiant a mentora (b) wedi’i ategu gan raglen o ddiwrnodau astudio, darlithoedd a chynadleddau a drefnwyd gan yr Adran Ddeintyddol Ôl-raddedig AaGIC (c) derbyn sesiynau tiwtorial/adborth unwaith y mis gyda'r goruchwyliwr addysg ymarfer a (d) cwblhau portffolio myfyriol. Mae'r swyddi yn y practis ar gael yn ddau ddiwrnod yr wythnos, felly gellir eu cyfuno â swyddi rhanedig mewn practisau eraill neu swyddi amser llawn os oes gan y practis hyfforddi'r capasiti. Byddwch yn ymwybodol, fodd bynnag, bod yn rhaid i therapyddion ymrwymo i'r 12 diwrnod astudio gorfodol os ydynt yn gweithio mewn swydd wedi'i rhannu.
Cysylltwch â heiw.dental@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r cynllun yn rhedeg o fis Medi bob blwyddyn am gyfnod o 52 wythnos. Gwahoddir ceisiadau gan ymarferwyr deintyddol cyffredinol y GIG sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, sydd ag o leiaf pedair blynedd o brofiad, i ddod yn oruchwylydd addysgol ar y rhaglen. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Mai.
Hoffech chi ymuno â'n grŵp o bractisau deintyddol cymeradwy ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol? Os felly, hoffem glywed gennych. Cysylltwch â heiw.dental@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth.
I wneud cais ar gyfer rhaglen eleni, ewch i: https://desap.heiw.wales/. Cliciwch yma am arweiniad ar sut i wneud cais trwy DESAP).
Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi ddarparu Cyflwyniad Powerpoint byr. Bydd arweiniad ar hyn yn cael ei anfon atoch ar gais.
Bydd y system hon yn dod yn fyw yn fuan.