Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Goruchwylwyr Addysgol Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw darparu tryloywder o ran pa ddata personol y bydd AaGIC yn ei gasglu amdanoch, sut y caiff ei brosesu a'i storio, pa mor hir y caiff ei gadw a phwy fydd yn gallu gweld eich data.

Mae AaGIC yn rheolwr data mewn perthynas â'r data personol sydd ganddo ynghylch Deintyddion Sylfaen yng Nghymru.

Mae data personol yn wybodaeth y gellir adnabod unigolyn naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol pan ddarllenir y wybodaeth ar y cyd â data arall y mae rheolwr data yn ei gadw.

O 25 Mai 2018 bydd Deddf Diogelu Data 1998 yn cael ei disodli gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a dyma fydd prif ddarn deddfwriaeth y DU sy'n ymwneud â data personol. Bydd AaGIC yn ddarostyngedig i'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Dylai Deintyddion Sylfaen fod yn ymwybodol bod yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i holl brosesu eich data personol gan AaGIC mewn perthynas â'ch rôl neu sy'n deillio ohoni.

Pam mae eich data personol yn cael ei gasglu

Caiff eich data personol ei gasglu a'i gadw at ddibenion:

  • Cefnogi'r gwaith o reoli rhaglenni hyfforddi – Defnyddir eich data i bennu allbynnau rhaglenni ac i lywio nifer y Goruchwylwyr Addysgol sy'n ofynnol ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol.
  • Rheoli eich cydnabyddiaeth fel Goruchwyliwr Addysgol – Bydd data personol a gesglir at y diben hwn yn cael ei gadw mewn cronfa ddata, a fydd fel arfer yn cynnwys eich enw, eich Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth cyflogi, rhif y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC), cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i reoli eich rôl Goruchwyliwr Addysgol yn effeithiol.
  • Prosesau Sicrhau Ansawdd ac adolygu perfformiad – Gellir defnyddio eich data i gefnogi gwahanol fecanweithiau lleol gan gynnwys ymweliadau ymarfer a diwrnodau astudio DA ac ati.
  • Cydweithio â rhanddeiliaid i gyflawni gwelliannau a datblygiadau ar gyfer DFT a'r gweithlu Deintyddol yng Nghymru.
  • Cynnal diogelwch cleifion drwy reoli pryderon perfformiad – Efallai y bydd eich manylion personol yn cael eu rhannu â'r GDC os oes pryderon sylweddol ynghylch eich addasrwydd i ymarfer fel Goruchwyliwr Addysgol.
  • Cyfathrebu â chi am gyfleoedd datblygu, digwyddiadau, arolygon, gweithgaredd Portffolio Datblygiad Personol Electronig (DSDP) a gwybodaeth a allai fod o ddiddordeb i chi yn eich rôl Goruchwyliwr Addysgol.
  • Hwyluso dull tryloyw o ymdrin â DFT yng Nghymru.
  • Sicrhau uniondeb proffesiynol ein darparwyr DFT: er enghraifft dim cofnodion troseddol.
  • Gwybodaeth ddiogelu.
  • Cael mynediad i systemau TG Prifysgol Caerdydd a systemau DGDP.

Cyflawnir swyddogaethau AaGIC er budd y cyhoedd.   Mae angen prosesu data personol Goruchwylwyr Addysgol at ddibenion y swyddogaethau hynny. Mae data personol sensitif y gallai fod angen i ni ei rannu yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'ch iechyd neu gofnod troseddol pe bai angen i'ch cyflogwr neu'r GDC fod yn ymwybodol.

Sut y cesglir eich data personol

Cesglir data personol pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais Goruchwyliwr Addysgol DFT, yn llofnodi ac yn cyflwyno eich Contract DFT, yn y digwyddiad Cwrdd â'r Goruchwyliwr Addysgol (lluniau ar gyfer llyfrynnau'r ymgeisydd).  Caiff data personol ei gasglu a'i storio hefyd ar y DG yn unol â pholisi rheoli cofnodion Addysg Iechyd Lloegr (HEE) ac amserlen cadw cofnodion y GIG o fewn cod ymarfer rheoli cofnodion y GIG.

Sut mae eich data personol yn cael ei gadw'n ddiogel

Mae mynediad i'ch data personol wedi'i gyfyngu i'r Tîm DFT yn AaGIC.

Bydd eich data personol yn cael ei gadw am chwe blynedd ar ôl i chi adael eich rôl Goruchwyliwr Addysgol, ac ar yr adeg honno bydd eich data personol yn cael ei ddinistrio'n gyfrinachol ac yn ddiogel. 

Sut a pham y gellir rhannu eich data personol

Cedwir y wybodaeth hon mewn cronfa ddata electronig gudd gyda mynediad cyfyngedig.
Efallai y bydd eich data personol yn cael ei rannu â:

  • Llywodraeth Cymru
  • Gwasanaethau a Rennir y GIG (NHSSS)
  • Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA)
  • Rhestr perfformwyr
  • Byrddau Iechyd Lleol (BILl)
  • Addysg Iechyd Lloegr (HEE) – ar gyfer y Portffolio Datblygu Personol Electronig (DSDP)
  • Pwyllgor y Deon deintyddol Ôl-raddedig a'r Cyfarwyddwyr (COPDEND)
  • Trydydd partïon at ddibenion adrodd neu ymchwil a rheoli gwasanaethau fel portfolios

Bydd AaGIC ond yn trosglwyddo eich data personol i drydydd partïon gan ddefnyddio sianeli diogel a lle mae ei angen i reoli eich rôl Hyfforddiant Sylfaen Ddeintyddol, er enghraifft materion yn ymwneud â pherfformiad a chofrestru proffesiynol ac uniondeb neu faterion sy'n ymwneud â thaliadau.

Ni fydd AaGIC yn trosglwyddo eich data oni bai ei fod yn fodlon ar y materion canlynol:

  1. Bod sail deg a chyfreithlon i rannu eich data personol gyda'r trydydd parti.
  2. Bydd y trydydd parti yn ymdrin â'r data yn unol â'r gyfraith ar ddiogelu data.

Pan ddefnyddir y data i'w ddadansoddi a'i gyhoeddi gan dderbynnydd neu drydydd parti, bydd unrhyw gyhoeddiad ar sail ddienw ac wedi'i agregu, ac ni fydd yn ei gwneud yn bosibl adnabod unrhyw unigolyn. Bydd hyn yn golygu bod y data'n peidio â dod yn ddata personol.

Gall trydydd partïon gynnwys y rhestr ddi-gynhwysfawr ganlynol: Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), Llywodraeth Cymru, GDC, Arolygiaeth Iechyd Cymru (AIC).

Eich hawliau a chyfrifoldebau

Mae'n bwysig eich bod yn gweithio gyda ni i sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfoes felly rhowch wybod i AaGIC ar unwaith os oes angen diweddaru neu gywiro unrhyw ran o'ch data personol.

Fel arfer, bydd yr holl wneud gohebiaeth gan AaGIC drwy e-bost. Felly, mae'n hanfodol i chi gynnal cyfeiriad e-bost effeithiol a diogel neu efallai na fyddwch yn derbyn gwybodaeth.

Os ydych am gael copi o'ch data personol a gedwir gan AaGIC ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cais gwrthrych am wybodaeth ysgrifenedig.

Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu sy'n debygol o achosi niwed neu ofid i chi, neu i unrhyw benderfyniadau a wneir drwy ddulliau awtomataidd sy'n effeithio'n sylweddol arnoch.

Mae gennych hawl hefyd i gael data personol anghywir wedi'i gywiro, ei rwystro, ei ddileu neu ei ddinistrio.

Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o'r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut y caiff eich data personol ei brosesu, cysylltwch ag AaGIC.
Os hoffech ddysgu rhagor o wybodaeth am ddiogelu data, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymdrin â chwynion am sut y mae rheolwyr data wedi ymdrin â materion gwybodaeth ac yn rhoi arweiniad defnyddiol.