Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (DFT) - Proses Gymeradwyo Goruchwylwyr Addysg Ddeintyddol (DESAP)

 

Rôl y Goruchwyliwr Addysg Ddeintyddol yw goruchwylio a chefnogi Deintydd Sylfaen mewn gofal deintyddol sylfaenol, er mwyn i’r Deintydd Sylfaen allu gweithio heb oruchwyliaeth yn y gwasanaethau deintyddol cyffredinol, personol a chyflogedig ar ddiwedd yr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol.

Gall ymarferwyr deintyddol sy’n gweithio mewn practis deintyddol GIG yng Nghymru, gydag o leiaf 4 blynedd o brofiad o Wasanaethau Deintyddol Cyffredinol/Cymunedol yn y DU, wneud cais i fod yn Oruchwyliwr Addysg Ddeintyddol ym mis Ionawr, ar gyfer cynlluniau sy’n dechrau’r mis Medi canlynol fel arfer. Gallwch edrych ar y disgrifiad swydd, manyleb y person manyleb y practis sy'n lletya i gael rhagor o wybodaeth am rôl Goruchwyliwr Addysgol mewn practis deintyddol cyffredinol.

Os hoffech chi drafod rôl y Goruchwyliwr Addysgol, cysylltwch â Gabrielle Lloyd, Rheolwr Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol. Efallai y bydd Llawlyfr y Goruchwyliwr Addysg  yn ddefnyddiol i chi hefyd ac yn ateb rhai o’ch cwestiynau. Gweld y Bydd rownd y Broses Cymeradwyo Goruchwylwyr Addysg Ddeintyddol (DESAP). 

 

Y Broses Gymeradwyo

 

Proses cymeradwyo Goruchwyliwr addysgol hyfforddiant sefydliad dentyddol HEIW (DESAP) ar gyfer 2024/2025 blwyddyn hyfforddi.

Cadwchlygad am y ddolen i wned cais yma o’r 15 Ionawr 2024.

Proses Gymeradwyo Goruchwylwyr Addysgol DFT

Gellir cael rhagor o wybodaeth yma

 

Cwrs Datblygu Addysgwyr Deintyddol (Hanfodol ar gyfer pob ymgeisydd newydd cyn gwneud cais)           

01/02/2024 & 02/02/2024 (Modiwlau 1 a 2)

22/02/2024 & 23/02/2024 (Modiwlau 3 a 4)

Cyn belled â'ch bod wedi archebu lle ar y cwrs hwn rydych yn gymwys i wneud cais.

Triniwch fi’n Deg / Modiwl Ar-lein Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Llywodraethu Gwybodaeth / Cadw Cofnodion Modiwl

Modiwl Bwlio ac Aflonyddu 

Mae’r modiwlau hyn ar gael trwy

  • Learning@Wales – Os oes gennych unrhyw ymholiadau unglyn a hyn, cysylltwch a Rachel Morgan.

  • Bydd GDC – yn gallu eich cyfeirio at ddarparwyr y modiwlau

  • Darparwr indemniad – bydd hefyd yn gallu eich cyfeirio ato lle gallwch chi gail mynediad at y modiwlau hyn

 

Ceisiadau ar gyfer y Broses Cymeradwyo Goruchwylwyr Addysg Ddeintyddol (DESAP) ac Ymrwymiad Goruchwylwyr Addysgol – rownd ar agor         

15/01/2024 – 16/02/2024             

Amserlen ar gyfer ymweliadau Sicrhau Ansawdd Blynyddol practisau

Bwriad yr ymweliadau yw asesu’r cyfleoedd addysgol sydd yn y practis. Bydd Goruchwylwyr Addysgol yn cael eu gwerthuso’n flynyddol gan Gyfarwyddwyr Rhaglen Hyfforddi eu cynllun. Yna bydd yn cwblhau dogfennau’r ymweliad Sicrhau Ansawdd blynyddol ac yn rhoi adborth ar berfformiad yn ystod y flwyddyn i’r Goruchwyliwr Addysgol.

    15/01/2024 – 08/03/2024

Cyfweliadau –

(Ymgeiswyr newydd ac unrhyw Oruchwylwyr Addysgol sydd wedi sgorio yn y 10% isaf o’r holl Oruchwylwyr Addysgol yn ymweliad Sicrhau Ansawdd y practis.)                  

Os bydd angen cyfweliad arnoch, cewch wybod pa ddiwrnod y bydd angen i chi fod yn bresennol.                          

Cadwch y dyddiadau hyn yn rhydd nes i chi gael gwybod.

 

23/4/2024 & 24/04/2024 (Drwy Microsoft Teams)

Rhannu canlyniadau’r cyfweliadau

10/05/2024

Dyraniad lleol i broses ymarfer (Goruchwylwyr Addysg wedi eu dyrannu i gyflwyno proffil ymarfer i AaGIC am flaenoriaethu lleol)                

10/05/2024 – 24/05/2024  

Deintyddion Sylfaenol i gyflwyno dewisiadau i AaGIC                                                                                        

19/06/2023 - 21/06/2024

Ddyraniad

28fed Mehefin

Amserlen ar gyfer Ymweliadau Practis Newydd

 13/05/2024 – 28/06/2024

Cwrs cynefino Goruchwylwyr Addysgol ar gyfer staff practis newydd Goruchwylwyr Addysgol newydd                

26/06/2024

Dechrau Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol

  1af Medi

Yn ogystal â’r Cais i Gymeradwyo Goruchwylwyr Addysg Ddeintyddol, bydd y broses gymeradwyo hefyd yn cynnwys:

  • Cwrs Datblygu Addysgwyr Deintyddol – mae’n orfodol ar gyfer pob ymgeisydd newydd sydd am fod yn Oruchwyliwr Addysgol. Mae mynychu un o gyrsiau 4 diwrnod AaGIC yn un o’r gofynion hanfodol ar gyfer pob Goruchwyliwr Addysgol newydd nad oes ganddynt gymhwyster Ôl-radd amgen mewn Addysg Feddygol neu Ddeintyddol sy’n dderbyniol gan AaGIC. Bydd y cwrs nesaf yn cael ei gynnal ar 18 ac 19 Ionawr ac ar 15 ac 16 Chwefror. Cysylltwch â Kate Fry i gofrestru eich diddordeb.
  • Ymweliadau practis newydd ar gyfer pob ymgeisydd newydd – bwriedir eu cynnal ym mis Mai/Mehefin.
  • Ymweliadau blynyddol Sicrhau Ansawdd ar gyfer practisau ac adolygiad perfformiad blynyddol ar gyfer yr holl ymgeiswyr presennol sy’n ailymgeisio – i fod i ddigwydd ym mis Ionawr/Chwefror.

Bwriad yr ymweliadau yw asesu’r cyfleoedd addysgol sydd yn y practis. Bydd Goruchwylwyr Addysgol yn cael eu gwerthuso’n flynyddol gan Gyfarwyddwyr Rhaglen Hyfforddi eu cynllun. Bydd Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi’r cynllun yn arsylwi tiwtorial rhithiol drwy gyfrwng Microsoft Teams ac yn cael taith rithiol o amgylch y practis. Yna bydd yn cwblhau dogfennau’r ymweliad Sicrhau Ansawdd blynyddol ac yn rhoi adborth ar berfformiad yn ystod y flwyddyn i’r Goruchwyliwr Addysgol.

  • Dogfen sesiynau Goruchwylwyr Addysgol – mae hyn yn ofynnol ar gyfer Goruchwylwyr Addysgol presennol. Mae AaGIC yn monitro lefel ymgysylltu ac ymrwymiad yr holl Oruchwylwyr Addysgol sy'n gysylltiedig â Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol. Fe’ch atgoffir bod disgwyl i chi gyflawni o leiaf 14 sesiwn o fewn y flwyddyn Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (Medi – Awst) a bydd presenoldeb mewn sesiynau’n cael ei adolygu a’i gynnwys fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch ailbenodi Goruchwylwyr Addysgol. Mae’r ffurflen ymrwymiad tymhorol ar gyfer Goruchwylwyr Addysgol ar gael er gwybodaeth isod, ond bydd hyn nawr yn cael ei gwblhau drwy’r Broses Cymeradwyo Goruchwylwyr Addysg Ddeintyddol (DESAP) rhwng mis Ionawr a mis Chwefror.
  • Adroddiadau AGIC a Byrddau Iechyd Lleol – Bydd AaGIC hefyd yn casglu adroddiadau ar bob ymgeisydd gan AGIC a Byrddau Iechyd Lleol. Mae’r holl ddogfennau a’r meini prawf asesu a ddefnyddir yn y broses hon ar gael isod er gwybodaeth.
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth) – Triniwch fi’n Deg / Modiwl Ar-lein Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ( bob 3 blynedd), Llywodraethu Gwybodaeth / Cadw Cofnodion Modiwl (yn flynyddol), Modiwl Bwlio ac Aflonyddu (yn flynyddol).  – Fe’ch atgoffir bod angen y modilau hyn.


Ffeiliau