Hyfforddai Arbenigedd mewn Deintyddiaeth Bediatrig
Arbenigedd / Rhaglen: Deintyddol - Deintyddiaeth Bediatrig
Gradd: ST1
Math o swydd: Hyfforddai Arbenigedd Deintyddol x 1 swydd
Dyddiadau agor: Dydd Mawrth 30ain o Ebrill 2024 i ddydd Llun 27ain o Fai 2024
Gwahoddir ceisiadau am swydd Hyfforddiant Arbenigol 3 blynedd mewn Deintyddiaeth Bediatrig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP) rhwng Ysbyty Deintyddol Prifysgol Caerdydd a chlinigau deintyddol cymunedol De Cymru.
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer hyfforddeion sy'n dymuno cael mynediad i raglen hyfforddi sy'n arwain at ddyfarnu Tystysgrif Cwblhau mewn Hyfforddiant Arbenigol (CCST) yn yr arbenigedd hwn. Mae'r swydd hon wedi'i chymeradwyo gan Ddeon Deintyddol Ôl-raddedig Cymru.
Bydd cynnydd yn y rhaglen yn amodol ar adolygiad blynyddol boddhaol. Bydd hyd arferol yr hyfforddiant fel y'i pennir gan gwricwlwm y GDC ar gyfer yr arbenigedd. Bydd cymhwysedd ar gyfer argymhelliad Deon Deintyddol Ôl-raddedig Cymru i ddyfarnu CCST, gan y GDC, yn amodol ar gwblhau gofynion hyfforddi’r Ddeoniaeth.
Bydd disgwyl i'r rhai a benodir wneud trefniadau priodol i deithio i Glinigau Cymunedol yn Ne Cymru.
Mae'r cymwysterau a'r gofynion cofrestru proffesiynol ynghyd â meini prawf cymhwysedd eraill i'w gweld ym manyleb y person.
Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriadau cyn cyflogaeth, gan gynnwys Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I wneud cais ewch i'r system recriwtio ar-lein: Oriel
Llinell Amser:
Dyddiad agor ceisiadau: Dydd Mawrth 30ain o Ebrill 2024
Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Llun 27ain o Fai 2024
Dyddiad cyfweliad: Dydd Gwener 5ed o Orffennaf 2024 (dros dro)
Dyddiad cychwyn: Dydd Mercher 4ydd o Fedi 2024 (dros dro)
Atodiadau:
Os oes unrhyw un angen yr atodiadau hyn yn Gymraeg, cysylltwch ag AaGIC.
Arbenigedd / Rhaglen: Deintyddiaeth
Gradd: ST1
Math o swydd: Hyfforddai Arbenigedd Deintyddol x 3 swydd
Dyddiadau agor: Dydd Iau 11 Ionawr 2024 i ddydd Iau 1 Chwefror 2024
Gwahoddir ceisiadau am dair swydd Hyfforddai Arbenigol mewn Orthodonteg yn Ne Cymru. Mae'r swyddi wedi'u lleoli yn yr unedau orthodontig yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol (Caerdydd), Ysbyty'r Tywysog Siarl (Merthyr Tudful) ac Ysbyty Treforys (Abertawe). Mae manylion pob swydd unigol ynghlwm isod.
Mae pob un yn cael ei hysbysebu fel swyddi ymgeisio parhaus ST1-5. Mae camau hyfforddi ST1-3 yn addas ar gyfer hyfforddeion sy'n dymuno dilyn rhaglen hyfforddi sy'n arwain at ddyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol (CCST) yn yr arbenigedd hwn. Mae camau ST4-5 yr hyfforddiant yn addas ar gyfer hyfforddeion sy'n dymuno cael swydd Ymgynghorydd Orthodonteg.
Mae'r swyddi hyn wedi'u cymeradwyo gan Ddeon Deintyddol Ôl-raddedig Cymru.
Bydd cynnydd o fewn y rhaglen yn ddibynnol ar adolygiad blynyddol boddhaol. Bydd hyd arferol yr hyfforddiant yn unol â’r hyn sydd wedi’i bennu yng nghwricwlwm y CDC ar gyfer yr arbenigedd. Bydd cymhwysedd ar gyfer dyfarniad CCST gan y CDC yn amodol ar gyflawni gofynion hyfforddiant y Ddeoniaeth. Bydd hyn yn ôl argymhelliad Deon Deintyddol Ôl-raddedig Cymru.
Gellir dod o hyd i'r gofynion cymwysterau a chofrestriad proffesiynol ynghyd â meini prawf cymhwysedd eraill ym manyleb y person. Mae manyleb y person ar gyfer yr arbenigedd hwn ar gael o wefan Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol yn Orthodontig ST1 manyleb y person | Hyb Deintyddol
Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriadau cyn cyflogaeth, gan gynnwys Gwiriad Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I wneud cais, cyrchwch y system recriwtio ar-lein: Oriel
Amserlin:
Dyddiad hysbyseb ar Oriel: Dydd Iau 11 Ionawr 2024
Dyddiad ceisiadau’n agor: Dydd Iau 11 Ionawr 2024
Dyddiad ceisiadau’n cau: Dydd Iau 1 Chwefror 2024
Dyddiadau'r Ganolfan Ddethol: Dydd Mawrth 16 dydd Mercher 17 Ebrill 2024
Dyddiad cychwyn: Dydd Mercher 2 Hydref 2024
Proses Flaenori’n Agor: Dydd Llun 22 Ebrill 2024
Atodiadau:
Os ydy unrhyw un angen y dogfennau yma yn Gymraeg, cysylltwch gyda AaGIC.
Arbenigedd / Rhaglen: Deintyddol - Meddygaeth y Geg
Gradd: ST1
Math o swydd: Hyfforddai Arbenigedd Deintyddol x 1 swydd
Dyddiadau agor: Dydd Mercher 8fed o Fai 2024 i ddydd Mawrth4ydd o Fehefin 2024
Gwahoddir ceisiadau am swydd Hyfforddiant Arbenigol hyd at 5 mlynedd llawn amser mewn Meddygaeth y Geg gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP) yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol, Caerdydd.
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer hyfforddeion sy'n dymuno cael mynediad i raglen hyfforddi sy'n arwain at ddyfarnu Tystysgrif Cwblhau mewn Hyfforddiant Arbenigol (CCST) yn yr arbenigedd hwn. Mae'r swydd hon wedi'i chymeradwyo gan Ddeon Deintyddol Ôl-raddedig Cymru.
Bydd cynnydd yn y rhaglen yn amodol ar adolygiad blynyddol boddhaol. Bydd hyd arferol yr hyfforddiant fel y'i pennir gan gwricwlwm y GDC ar gyfer yr arbenigedd. Bydd cymhwysedd ar gyfer argymhelliad Deon Deintyddol Ôl-raddedig Cymru i ddyfarnu CCST, gan y GDC, yn amodol ar gwblhau gofynion hyfforddi’r Ddeoniaeth.
Mae'r cymwysterau a'r gofynion cofrestru proffesiynol ynghyd â meini prawf cymhwysedd eraill i'w gweld ym manyleb y person.
Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriadau cyn cyflogaeth, gan gynnwys Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I wneud cais ewch i'r system recriwtio ar-lein: Oriel
Llinell Amser:
Dyddiad agor ceisiadau: Dydd Mercher 8fed o Fai 2024
Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Mawrth 4ydd o Fehefin 2024
Dyddiad cyfweliad: Dydd Mercher 17eg o Orffennaf 2024 (dros dro)
Dyddiad cychwyn: Dydd Mercher 4ydd o Fedi 2024 (dros dro)
Atodiadau:
Os oes unrhyw un angen yr atodiadau hyn yn Gymraeg, cysylltwch ag AaGIC.
Arbenigedd / Rhaglen: Deintyddol – Orthodonteg ar ôl CCST
Gradd: ST4
Math o swydd: Hyfforddai Arbenigedd Deintyddol (ar ôl CCST)
Dyddiadau agor: Dydd Iau23ain o Fai 2024 i ddydd Mercher 19eg o Fehefin 2024
Gwahoddir ceisiadau am un apwyntiad ôl-CCST mewn Orthodonteg yn:
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer hyfforddeion a fydd wedi ennill CCST neu sydd o fewn tri mis i gael eu tystysgrif ac sy'n gallu symud ymlaen yn syth i benodiad cyfnod penodol am ddwy flynedd.
Bydd cynnydd yn y rhaglen yn amodol ar adolygiad blynyddol boddhaol. Bydd hyd arferol yr hyfforddiant fel y'i pennir gan gwricwlwm y GDC ar gyfer yr arbenigedd.
Bydd cwblhau'r rhaglen hyfforddi yn llwyddiannus yn arwain at gwblhau'r arholiad ISFE yn foddhaol.
Mae'r cymwysterau a'r gofynion cofrestru proffesiynol ynghyd â meini prawf cymhwysedd eraill i'w gweld ym manyleb y person.
Bydd angen i bob ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriadau cyn cyflogaeth, gan gynnwys Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I wneud cais ewch i'r system recriwtio ar-lein: Oriel
Llinell Amser:
Dyddiad agor ceisiadau: Dydd Iau 23ain o Fai 2024
Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Mercher 19eg o Fehefin 2024
Dyddiad cyfweliad: Dydd Iau 11eg o Orffennaf 2024 (dros dro)
Dyddiad cychwyn: Dydd Mercher 2il o Hydref 2024 (dros dro)
Atodiadau:
Os oes angen yr atodiadau hyn yn Gymraeg ar unrhyw un, cysylltwch ag AaGIC.