Mae hwn yn offeryn y gellir ei ddefnyddio i helpu i leihau'r risg o echdynnu dannedd anghywir ar gyfer cleifion sy'n cael triniaeth o dan anesthesia lleol. Mae defnyddio'r rhestr wirio hon yn helpu i gynnwys y tîm deintyddol cyfan a gall ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o gynllunio sydd wedi'i ddefnyddio i sicrhau bod y dant cywir yn cael ei echdynnu. Darperir dolenni i'r offeryn yn y Gymraeg a Saesneg isod.