Neidio i'r prif gynnwy

Allan o raglen

DNA spiral

Gwneud cais am brofiad allan o raglen (OOP) i feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru

 

Mae'n ofynnol i hyfforddeion gael cymeradwyaeth ffurfiol gan y Deon Ôl-raddedig er mwyn cymryd saib o raglen hyfforddiant clinigol.

Os ydych yn ystyried cymryd saib o'ch GP Rhaglen Hyfforddiant Arbenigol (OOP) rhaid i chi ddarllen y  Gold Guide a'r Polisi Allan o Raglen cyn cyflwyno cais. 

Mae nifer o gamau y mae'n rhaid eu dilyn:

Cam 1 – trafodwch eich cynlluniau gyda'ch Goruchwyliwr Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi o leiaf chwe mis cyn dyddiad dechrau yr OOP arfaethedig.

Cam 2 – os yw eich Goruchwyliwr Addysgol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant yn cefnogi’ch cais, mae angen i chi hefyd adolygu gofynion eich Coleg o ran y broses ymgeisio a chymeradwyo OOP.

Cam 3 – llenwch a chyflwynwch y ffurflen gais fel y nodir ym mholisi AaGIC.  Rhaid ei chyflwyno o leiaf chwe mis cyn dyddiad dechrau yr OOP arfaethedig. 

Bydd y Deon Ôl-raddedig ond yn ystyried ceisiadau a gyflwynir ar ffurflen gais Allan o Raglen (OOP).

  • Llenwch bob adran o'r ffurflen yn gyflawn a rhowch dystiolaeth o gymeradwyaeth arfaethedig gan Gyfarwyddwr eich Rhaglen Hyfforddi a'r Coleg Brenhinol / SAC / Cyfadran berthnasol.
  • Os yw eich cais am OOP yn gyfrannol i’ch hyfforddiant/CCT, bydd AaGIC yn anfon eich cais ymlaen at y GMC.
  • Noder bod yn rhaid i gais OOP gael ei gymeradwyo'n ddichonol os yw i gyfrif tuag at ddyfarniad CCT neu CESR (CP). Mae hyn yn un o ofynion Cyfarwyddeb yr UE.
  • Rhaid i hyfforddeion allan o raglen presennol sicrhau bod adolygiad blynyddol ac adnewyddiad o’r ffurflen OOP yn cael eu cwblhau a'u cyflwyno ynghyd â'r adroddiad perthnasol cyn yr ARCP. I gael rhagor o wybodaeth am y broses OOP, ewch i wefan y GMC

Ffurflen Gais Allan o Raglen (OOP) ar gyfer Meddygon Preswyl Ymarfer Cyffredinol - Cwblhau Ffurflen

Apeliadau

Os yw Meddyg Preswyl yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad ar ei gais am OOP, dylai ofyn yn ffurfiol am adolygiad o'r penderfyniad drwy ysgrifennu at y Tîm Rheoli Hyfforddiant Meddygon Teulu heiw.gptraining@wales.nhs.uk. Os na ellir datrys y mater, yna dylai'r Meddyg Preswyl gyflwyno apêl gan ddefnyddio'r ffurflen apeliadau ddigidol (a ddangosir isod) gan nodi'n glir y rheswm dros yr apêl ac unrhyw dystiolaeth ategol.

Bydd panel apeliadau annibynnol a gynhelir unwaith y mis yn adolygu'r holl apeliadau a gyflwynir a bydd yn ymdrechu i wneud hynny o fewn 20 diwrnod gwaith i hysbysiad o apêl. Bydd penderfyniad y panel a'r rheswm dros wneud y penderfyniad hwnnw yn cael eu cadarnhau'n ysgrifenedig i'r Meddyg Preswyl o fewn pum diwrnod gwaith o benderfyniad y Panel Apeliadau. Mae penderfyniad y panel yn derfynol.

Cais Apeliadau – Cwblhau Ffurflen