Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Gallu Cyhyrysgerbydol Aml-broffesiynol Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Mae AaGIC, wedi datblygu fframwaith gallu aml-broffesiynol ar gyfer ymarferwyr sy’n darparu gofal i bobl â chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol i oedolion yng Nghymru. Maent wedi gwneud hyn mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol MSK o Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, Sefydliadau Addysg Uwch, a Chyrff Proffesiynol ledled Cymru.

Mae'r term 'Gofal Sylfaenol' yn cael ei ddefnyddio yn ei ystyr helaethaf, gan gynnwys cyfuniad o wasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol sy'n darparu ac yn cydlynu gofal fel rhan o ddull llwybr y system gyfan.

Nodwyd nad yw gweithio ‘mewn Gofal Sylfaenol’ yn ymwneud â darparu model gofal eilaidd mewn lleoliad arall, ac nad yw’r darpariaeth o wasanaethau wedi’i seilio mewn un lleoliad. Yn hytrach, mae’n cynnwys amrywiaeth o leoliadau yn seiliedig ar drefn llwybrau lleol a gweithio mewn partneriaeth e.e. practisys cyffredinol, cyfleusterau cymunedol a lleoliadau cleifion allanol.

Nod y Fframwaith

Mae’r Fframwaith hwn yn nodi’r galluoedd sydd eu hangen ar glinigwyr sydd wedi’u cofrestru’n broffesiynol i ddiwallu anghenion gofal iechyd a lles presennol a’r rhai sy’n cael eu rhagweld ar gyfer pobl â chyflyrau MSK mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb yn natblygiad y gweithlu MSK presennol ac yn y dyfodol. Yn ganlyniad i hyn, bydd yn sicrhau cysondeb yn y gofal a ddarperir gan glinigwyr a gwasanaethau ledled Cymru ar gyfer pobl â chyflyrau MSK. Bydd hyn yn bodloni’r safonau ansawdd a nodir yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer MSK Health (2023)

Mae'r fframwaith hwn yn cyd-fynd â'r Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Estynedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru (2023) a'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau.

Os hoffech gael gwybod am ddatblygiad y gwaith hwn, cysylltwch â heiw.primarycare@wales.nhs.uk