Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Cymhwysedd Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACP)

Hyd yn hyn, ni fu unrhyw ymdrech yng Nghymru i ddiffinio’r cymwyseddau sydd eu hangen i ymgymryd ag ymarfer clinigol uwch (ACP) o fewn gofal sylfaenol neu gymunedol.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol o bob bwrdd iechyd, wedi datblygu framwaith Cymhwysedd Ymarferwyr Clinigol Uwch aml-broffesiynol ar gyfer clinigwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau sylfaenol a chymunedol.

Mae'r adborth o'r ymgynghoriad yn cael ei adolygu a bydd copi terfynol o'r Fframwaith Cymhwysedd Ymarferwyr Gofal Uwch Aml-Broffesiynol ar gael ar Y Tŷ Dysgu mewn e-bortffolio cyn bo hir.

Bydd yr e-bortffolio yn:

  • darparu ffordd i’r unigolyn gofnodi ei lefel cymhwysedd presennol yn ogystal â’r datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a gyflawnwyd
  • hwyluso cwblhau Adolygiad o Arfarniad Perfformiad a Datblygiad blynyddol (PADR)  trwy gadw gwybodaeth mewn un lle.

 

Pam fod y fframwaith ACP yn bwysig?

Bydd y fframwaith yn caniatáu i ACPs:

  • diffinio'r cymwyseddau sydd eu hangen i weithio mewn gofal sylfaenol a chymunedol ar lefel uwch. Mae’r unigolyn yn hunanasesu ei gymhwysedd ei hun yn erbyn cyfres o feysydd ac yn nodi’r cymwyseddau allweddol sydd eu hangen o fewn eu cwmpas ymarfer)
  • mapio eu hanghenion addysg a hyfforddiant eu hunain i gynnal ac ymestyn eu cwmpas ymarfer, i’r math o adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r cymhwysedd hwnnw
  • darparu disgrifyddion ‘cwmpas ymarfer’ clir ar gyfer pob blwyddyn o hyfforddiant, a chynllunio eu datblygiad, tra’n bod yn glir ynghylch eu cwmpas ymarfer presennol
  • manylu ar y sgiliau clinigol craidd sydd y tu ôl i bob maes ymarfer / cyflwyniad dangosol