Mae AaGIC, fel y Partner Datblygu ar gyfer y Prentisiaethau Gofal Iechyd, wedi bod yn arwain ar adolygiad o'r Llwybr Prentisiaeth Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd. Sefydlwyd Grŵp Llywio i oruchwylio'r gwaith hwn gydag aelodaeth o du AaGIC, GIG Cymru, Darparwyr Addysg a Hyfforddiant, Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a'r Sector Annibynnol.
Y cynnig yn y Llwybr adolygedig hwn yw cynnwys nifer o gymwysterau Lefel 2 a 3 newydd i ehangu'r cyfleoedd i Brentisiaid o fewn y maes gwaith arbenigol hwn.
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng dydd Llun 7 Ebrill a dydd Llun 31 Ebrill 2025. Byddai AaGIC yn gwerthfawrogi’ch barn ar y Llwybr adolygedig.
Sut i ymateb i'r ymgynghoriad:
Gallwch gael mynediad i'r fframwaith drafft i'w adolygu yma.
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad trwy Microsoft Forms, yma: Cwestiynau Ymgynghori i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd am Fframwaith Prentisiaethau Cymru
Cysylltwch â HEIW.WBLApprenticeships@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.